Heb os nac oni bai, fy hoff beth am y gyfrol yma i blant ydy’r darluniau. Mae’r morfil fel petai ganddo wyneb dynol, llawn emosiwn, mae’r cymeriadau yn gwisgo dillad lliwgar ac mae nodweddion eu hwynebau yn gartwnaidd-gomic a llawn cymeriad. Dw i'n meddwl y byddai’r clawr yn apelio at gynulleidfa ifanc wrth iddyn nhw ddewis o’r silff lyfrau.

Mae hon yn stori am ddau blentyn sy’n mynd i lawr at y traeth ar ôl storm i chwilio am unrhyw beth diddorol allai fod wedi golchi i'r lan dros nos. Ond pan maen nhw’n cyrraedd, maen nhw’n gweld morfil anferth yn gorwedd ar y traeth. Wedyn cawn hanes y gymuned yn cydweithio i gadw’r morfil yn wlyb ac yn oer hyd nes y daw’r llanw i mewn yn ddiweddarach. Mae’r plant yn aros ar ddi-hun trwy’r nos, sy’n syniad deniadol iawn i blant bach, felly dw i’n tybio y bydd yn plesio’r rhai sy’n darllen y gyfrol yma. Mae Mali, y ferch fach, yn cyfansoddi cân fach i gysuro’r morfil a’i gadw’n dawel hyd nes ei fod yn cael ei achub.

Fedra i ddim dweud yn iawn at ba oed na lefel darllen y mae’r llyfr yma wedi ei anelu. O bryd i'w gilydd mae’r eirfa ychydig yn ffurfiol (e.e. ‘cyhyd’, ‘aiff’), a allai fod yn anodd neu’n ddiarth i ddarllenwyr ifanc iawn. Ond mae’r llinell storïol ei hun yn awgrymu ei fod ar gyfer plant bach. Serch hynny, mae lle i gyflwyno geirfa newydd o bob cywair i blant ifanc yn ein llyfrau, mae’n siŵr, ac nid oes raid gorsymleiddio ar gyfer plant bach drwy’r amser.

Roeddwn i'n hoff iawn o naws cyffredinol y gyfrol. Mae hi’n stori, yn ei ffordd gynnil ei hunan, sy’n dysgu pwysigrwydd bod yn ofalgar o eraill, gweithio fel tîm ac fel rhan o’r gymuned ac i ofalu am fyd natur. Mae’r tudalennau yn ddeniadol dros ben gyda’r darluniau arbennig o fanwl a hardd ac mae’r gwaith celf yn dod yr un mor bwysig â’r stori, wrth i’r lliw a lluniau lenwi’r dudalen gyfan.

Dyma stori hoffus am y cyfeillgarwch a’r ddealltwriaeth sy’n datblygu heb eiriau rhwng Mali a’r morfil a dw i’n siŵr y bydd yn dod yn ffefryn o blith y straeon amser gwely mewn sawl cartref.

- Mererid Haf @ www.gwales.com,

Mali's father is a fisherman, who has created a small boat for her so that she can learn how to sail. Soon, Mali is sailing on the waves in the company of a pod of dolphins. Mali helps a young dolphin who gets caught in a net. But who will help Mali when she gets into difficulty on the sea?
Les mer
Mali's father is a fisherman, who has created a small boat for her so that she can learn how to sail. Soon, Mali is sailing on the waves in the company of a pod of dolphins. Mali helps a young dolphin who gets caught in a net. But who will help Mali when she gets into difficulty on the sea?
Les mer
Mae Malachy Doyle wedi cyhoeddi dros gant o lyfrau, o lyfrau sbonc i blant ifanc i nofelau grymus i’r arddegau. Dros y blynyddoedd mae wedi ennill nifer o wobrau llyfrau pwysig, ac mae ei waith ar gael mewn tua deg ar hugain o ieithoedd. Mae Andrew Whitson yn arlunydd arobryn ac yn frodor o Belffast sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae’n byw mewn hen dŵ sy’n swatio’n gynnil ar ochr bryn niwlog; ar ymyl coedwig hud, islaw castell swynedig yng nghysgod trwyn cawr.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781802581324
Publisert
2022-08-22
Utgiver
Graffeg Limited; Graffeg Limited
Høyde
250 mm
Bredde
250 mm
Dybde
4 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
36

Forfatter
Oversetter
Illustratør