Does dim yn well na chael llyfr o farddoniaeth wreiddiol i blentyn a dyna’n union a geir yn y llyfr hwn. Mae yma bedair ar bymtheg o gerddi ar bob math o destunau, gan gynnwys ‘Gwyliau’r Haf’, ‘Anifail Anwes ein Teulu ni’, ‘Enwau’, ‘Medrau Meddwl’ ac ‘Yn y Den’. Maent yn gerddi doniol iawn gydag ambell dro yn y gynffon, megis pennill olaf ‘Gwyliau’r Haf’: Hwre! Dim ond diwrnod eto, Wedyn caf fynd nôl i weithio, a gwneud ‘run syms dro ar ôl tro – achos FI yw’r prifathro. Mae sŵn geiriau yn bwysig i blant ifanc, ac mae'r gyfrol hon yn llwyddo am fod rhai cerddi wedi eu hysgrifennu yn y mesur rhydd ac eraill mewn mydr ac odl – yr olaf a blesiodd trigolion ein tŷ ni. Beth am y pennill hwn o'r gerdd ‘Enwau’, sy'n chwarae ar enwau ac ystyron llefydd yng Nghymru?: Ydi pysgod Aberhosan Yn gwau sanau dan y dŵr? A phwy yw mab y Dani hwnnw O Landdaniel, dwi’m yn siŵr. Dyma ffordd ddigon difyr, mae’n rhaid dweud, i ddysgu rhywfaint am ddaearyddiaeth Cymru! I gyd-fynd â difyrrwch y cerddi ceir lluniau trawiadol iawn gan Iola Edwards ac mae gwaith dylunio Dafydd Llwyd hefyd yn gelfydd. Dyma fargen, heb os, am bum punt.
- Sarah Down @ www.gwales.com,