Y mae popeth mae Teigr bach yn ei glywed yn newydd ac yn gyffrous. Pan mae'n dweud wrth ei fam am y synau o'i gwmpas mae hi'n ei atgoffa 'Pan na fyddi di'n eu clywed, bryd hynny, fy mab, bydd barod. Bydd Arglwydd y Fforest yma!' Ond pwy yw Arglwydd y Fforest, a phryd bydd Teigr yn gwybod? Addasiad Cymraeg Mererid Hopwood o Lord of the Forest.
Les mer
Y mae popeth mae Teigr bach yn ei glywed yn newydd ac yn gyffrous. Pan mae’n dweud wrth ei fam am y synau o’i gwmpas mae hi’n ei atgoffa ‘Pan na fyddi di’n eu clywed, bryd hynny, fy mab, bydd barod. Bydd Arglwydd y Fforest yma!’ Ond pwy yw Arglwydd y Fforest, a phryd bydd Teigr yn gwybod?
Les mer
Mae Caroline Pitcher yn awdur arobryn sy’n dathlu trwy ysgrifennu, fel byw bywyd ddwywaith. Mae hi wedi ysgrifennu llawer o nofelau a straeon, gan gynnwys y llyfrau lluniau The Snow Whale, The Time of the Lion, Mariana and the Merchild, Nico’s Octopus, The Littlest Owl, Time For Bed, Home Sweet Home a The Winter Dragon. Mae Jackie Morris yn arlunydd, yn awdur ac yn beintiwr. Mae’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac mae ei gwaith yn cael ei lywio a’i ysbrydoli gan leoedd a chreaduriaid gwyllt. Mae ei llyfrau yn cynnwys The Lost Words, a grëwyd ar y cyd â Robert Macfarlane ac a dderbyniodd gwobr The Greenaway Award am ddarlunio, a’i haddaswyd i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood, Geiriau Diflanedig, The Lost Spells, hefyd gyda Macfarlane a How The Whale Became wedi’i ysgrifennu gan Ted Hughes. Enillodd Mererid Hopwood Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Derbyniodd hefyd wobr Llyfr y Flwyddyn am Farddoniaeth Gymraeg a Gwobr Tir na n-Og am nofel i blant.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781802581980
Publisert
2022-09-15
Utgiver
Graffeg Limited; Graffeg Bach
Høyde
365 mm
Bredde
270 mm
Aldersnivå
JC, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
24

Forfatter
Illustratør
Oversetter