'Rydw i'n bechadurus o gonfensiynol Gymraeg cyn belled ag y mae bro fy mebyd yn y cwestiwn:
"Mae Tanygrisiau a'r Blaenau yn annwyl i mi,
Gwlad ..."
Gwlad beth? Pechadurus o gonfensiynol eto ydi dweud mai gwlad o bobol oedd yn gymdeithas agos at ei gilydd oedd hi yn ystod fy machgendod i. Roedd yna reswm da am hynny, achos gwlad lle'r oedd llawer o'i dynion hi'n gweithio mewn creigiau, yn gweithio ynghanol mynyddoedd oedd hi, a chaledi'n dwyn pobol at ei gilydd. A gwlad oedd hi, yn fy mhlentyndod, a aeth trwy gyfnod o ryfel. Eironig, wrth gwrs, ydi'r defnydd o'r gair 'pechadurus' uchod: mater o ffaith ydi fod ein cymdeithas ni, erbyn hyn, wedi colli rhywbeth gwerthfawr iawn trwy inni i gyd fynd yn fwy crafangog a hunanol.'
Mae'r gyfrol hon yn 'Llyfr y Mis' gan Gyngor Llyfrau Cymru yn ystod Tachwedd 2015.
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,