‘‘Daeth ‘chwadal Wil Sam’ yn fformiwla ar lafar gwlad wrth gymhwyso gair neu ymadrodd’’ - dyna ddywed Dafydd Glyn Jones yn ei deyrnged i W. S. Jones yn dilyn marwolaeth y dramodydd o Eifionydd yn 2007.
Oedd, roedd Wil yn dipyn o ‘ddyffar’ (chwadal Wil Sam) pan ddeuai’n fater o drin, bathu a chwarae â geiriau ac ymadroddion – nifer ohonynt, fel ‘embaras’, ‘conffiws’, ‘hwnna ydi o’ a ‘sgersli bilîf’, bellach wedi treiddio i’n haith fel petaent wedi bod yno erioed.
Ond mae ‘chwadal Wil Sam’ yn briodol i lawer iawn mwy na’i ‘botshian’ hefo geiriau. Oherwydd, drwy gydol ei oes, bu Wil yn ŵr a fynnodd dorri ei gŵys unigryw ei hun. Ymwrthododd ag addysg ffurfiol. Bu’n ffyddlon odiaeth i’w fro a’i genedl. Safodd yn gadarn dros ei heddychiaeth. Mentrodd i ysgrifennu’n llawn amser – y cyntaf yng Nghymru’r oes fodern i wneud hynny.
Dyna’n fras y cefndir a dyna’n fras yr hyn a geir, mewn gair a llun, yn y diweddaraf yng nghyfres <i>Bro a Bywyd</i>.
Yr awdur toreithiog a’r newyddiadurwr Ioan Roberts fu’n dyfal gasglu oddeutu 15O o luniau’r gyfrol sy’n cwmpasu 87 mlynedd o oes W. S. Jones, ynghyd â rhaglenni, tystysgrifau, llythyrau – a dyfyniadau. Mae rhai’n atgofion cyfoedion a chyd-deithwyr bywyd ond y rhan fwyaf o ddigon yn gynnyrch dychymyg a beiro Wil Sam ei hun.
A dyna ddychymyg oedd hwnnw - un a greodd gannoedd ar gannoedd o straeon, sgriptiau, cerddi ac ysgrifau, heb sôn am ddramâu sydd ymhlith y difyrraf a'r rhai mwyaf cofiadwy’r theatr Gymraeg.
Ond yr hyn sy’n treiddio drwy’r gyfrol yw anwyldeb naturiol ac unigryw y gwrthrych boed hynny wrth ei waith, yn ei ‘ddiléit’ mewn beiciau (pedal neu fodur), fel cyfaill hoffus a theyrngar neu fel dyn ei deulu. Mae’n gyfrol deyrnged deilwng ac urddasol. ‘Impres’, chwadal Wil Sam.
- Alwyn Gruffydd @ www.gwales.com,