The latest book in the 'Bro a Bywyd' series looks back on the colourful life of Hywel Teifi Edwards, one of the most prominent Welsh figures of the twentieth century. Cyfrol sy'n talu teyrnged i gyfraniad enfawr Hywel Teifi Edwards i'w genedl yn weledol ac yn ysgrifenedig ac a fydd, gobeithio yn cadw'i straeon yn fyw.
Les mer
The latest book in the 'Bro a Bywyd' series looks back on the colourful life of Hywel Teifi Edwards, one of the most prominent Welsh figures of the twentieth century. Cyfrol sy'n talu teyrnged i gyfraniad enfawr Hywel Teifi Edwards i'w genedl yn weledol ac yn ysgrifenedig ac a fydd, gobeithio yn cadw'i straeon yn fyw.
Les mer
Rhagair (Tegwyn Jones) 'Hywel aber-arth' Pel-droed a champau eraill 'Ysgolhaig y Bobl' Gwleidydd Eisteddfodwr Llangennech a thu hwnt
Fel y dywed golygydd y gyfrol, Tegwyn Jones, tasg debyg i un Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen oedd rhoi'r amryddawn Hywel Teifi Edwards rhwng dau glawr ond mae wedi llwyddo'n rhyfeddol. Does dim dwywaith nad yw’r awdur yn adnabod ei wrthrych yn dda. Dewiswyd dull hynod o effeithiol i gyfleu’r fro a throeon yr yrfa sef geiriau Hywel Teifi ei hun. Dyddiau mebyd Aber-arth a geir y sylw cyntaf – ac fe gyflwynir y teulu a’r ardal drwy ddyfyniadau o sgyrsiau a gyflwynwyd gan Hywel Teifi gerbron Cyfeillion y Cyngor Llyfrau. Dyfynnir hefyd bwt o sgwrs rhwng Hywel a’i chwaer, Myfanwy, a ddarlledwyd mewn rhaglen ar gyfer S4C a hefyd sgwrs a recordiwyd ar gyfer rhaglen Beti a’i Phobol yn 1989 – ac felly yr â’r gyfrol yn ei blaen gan nodi’r cerrig milltir yn gwbl gelfydd. Roedd gan Hywel ddiddordeb mawr mewn chwaraeon a bu ar un adeg yn dipyn o bêl-droediwr, fel y tystia'r rhai sy'n cofio am ei gampau ar y cae. Yn wir, mae'r llun ohono'n chwarae ar y Cae Sgwâr yn Aberaeron yn dweud y cyfan! Symudir ymlaen yn dwt wedyn at hanes gadael yr aelwyd yn Aber-arth ac at ei gyfnod yn y Brifysgol yn Aberystwyth ac at ddechrau gyrfa. Fe briododd â Rona a daeth dau gyw arbennig iawn i’r nyth – Huw a Meinir – ac yn y bennod hon hefyd ceir lluniau hyfryd o’r genhedlaeth nesaf, a Hywel yn amlwg wedi dotio ar fod yng nghanol y bwrlwm teuluol. Dengys Tegwyn Jones fod Hywel yn ddyn teulu arbennig iawn, ond efallai mai fel ysgolhaig y gwyddom ni’r darllenwyr amdano orau, a dyma’r bennod sy’n cael sylw nesaf yn y gyfrol hon. Meddai Geraint Jenkins, ‘Yr wyf o’r farn fod Hywel yn ysgolhaig gwirioneddol fawr – efallai y mwyaf a welwyd yn Adrannau Cymraeg Prifysgol Cymru erioed.’ Roedd hefyd yn wleidydd brwd, a neilltuir pennod i hynny a phennod gyfan, fel y disgwylir, i’r Eisteddfod. Gwyddai bopeth oedd i wybod am yr Eisteddfod wrth gwrs; bu’n feirniad ac yr oedd ganddo farn bendant amdani, fel y nodir yn y gyfrol. Ond daw'r llyfr i ben yn Llangennech, ardal lle y bu ef a’i deulu yn byw ynddi er 1965, er mai'r llun olaf yn y gyfrol, yn naturiol ddigon, yw hwnnw a dynnwyd ar ddiwrnod angladd Hywel Teifi yn Aber-arth. Yn ei eiriau ef ei hun, ‘Yn Llangennech y bydda i bellach tan ddiwedd oes, ac wedyn, fel y teid yn dod fyny i Lwchwr fe a’ i’n ôl i Aber-arth.’ Dyma’n wir gofnod hyfryd o gerrig milltir y cawr o Aber-arth – cofnod cynnes iawn gan un a oedd yn ei adnabod yn dda ac a lwyddodd i gyfleu prif ddigwyddiadau bywyd Hywel drwy gyfrwng atgofion y dyn ei hun ac atgofion a sylwadau ei gyfeillion. Dyma lyfr i’r sawl nad oedd yn adnabod Hywel Teifi yn dda ond dyma gyfrol hefyd i’r rheiny a oedd yn gyfeillion agos iddo ac yn ei adnabod yn dda. Daw'r darllenydd i wybod rhywbeth newydd am y gŵr o Aber-arth, gan drysori'r stôr o atgofion a gyflwynir yma'n gofiadwy mewn gair a llun.
Les mer
Y Golygydd: Aeth Tegwyn Jones i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth gwta ddwy flynedd ar ôl ei gyd-Gardi, Hywel Teifi, ac yno y gosodwyd sylfeini eu cyfeillgarwch. Wedi dyddiau coleg, aeth y ddau i ddysgu mewn ysgolion yn ne Cymru lle’r arhosodd Hywel weddill ei oes. Daeth Tegwyn yn ôl i’w gynefin gan ymuno â staff Geiriadur Prifysgol Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yno y bu’n gweithio hyd ei ymddeoliad yn 1996. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae agweddau ar hanes Morrisiaid Môn, bywgraffiad dau faledwr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chasgliadau o brydyddiaeth werinol megis baledi, tribannau, ‘penillion bob dydd’ a limrigau. Yn 2008, ar y cyd â Dr Huw Walters, golygodd Cawr i’w Genedl, cyfrol o draethodau i gyfarch Hywel gan nifer o gyfeillion a chyd-ysgolheigion.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781906396619
Publisert
2013-08-01
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
1 mm
Bredde
1 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
116

Redaktør