Cyfrol gain sy'n cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a nifer o batrymau Celtaidd o lawysgrifau canoloesol, wedi eu haddasu gan Martin Crampin. Llyfr anrheg i unrhyw un sydd am bori ym myd y chwedlau.

- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,

Twyllodrus fyddai meddwl am y gyfrol hon fel casgliad yn yr ystyr gonfensiynol; mae ôl curadu arni, ac mae’n fwy bwriadol o lawer na phentwr o destunau a wthiwyd rhwng dau glawr ar sail thema gyffredin yn unig. Ond mae yna thema, wrth gwrs, sef chwedlau. Gellid dadlau yn ddiddiwedd am ffiniau chwedl, hanes, myth, a stori, ond llwydda’r gyfrol hon i fwrw’r rhwyd yn eang heb golli ei min.

Ceir straeon cyfarwydd y Mabinogi; ceir chwedlau mwy lleol fel Gwrach Cors Fochno; a cheir yr elfennau hynny o’n hanes sydd wedi codi uwchlaw ffaith ac ymgorffori rhyw ddyhead a delfryd mwy, megis lladd Llywelyn Ein Llyw Olaf; ond ceir hefyd ffigyrau ein llên gwerin a darodd dant ym meddwl gwlad megis Twm Siôn Cati, a hefyd ffigyrau megis Santes Dwynwen sy’n troedio ffin amwys rhwng seiliau hanesyddol a’r dychymyg.

Cerddi ar y cyfan yw’r arlwy, ond mae hefyd ddetholiadau rhyddiaith (aralleiriadau o hen destunau’r Mabinogi, er enghraifft), a hefyd ddetholiad o’r ddrama ‘Blodeuwedd’ gan Saunders Lewis. Mae hyn yn sicrhau bod rhythm y casgliad yn amrywio ac yn dolennu, yn hytrach na llifo’n syth at yr aber, fel petai: mae’r detholiadau hŷn yn ymddangos blith draphlith â’r deunydd cyfoes neu weddol gyfoes (sef y mwyafrif o’r cynnwys), ac mae’r cyfosodiadau hyn yn creu ei sylwebaeth ei hun. Mae’r gwahanol oesoedd a chyfnodau yn ymddiddan â’i gilydd rhwng y cloriau, os mynnwch chi, ac yn eplesu ar y cyd, yn ymblethu’n haenau amser.

Mae yma ystod eithaf eang o awduron: ochr yn ochr â rhai o enwau mawr yr ugeinfed ganrif megis R. Williams Parry, a lleisiau hŷn y sîn farddol megis Alan Llwyd, gwelwn gerddi gan Marged Tudur, Aneirin Karadog, Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury, ymysg eraill.

Ac o ran y cerddi, mae yna gydbwysedd rhwng cerddi rhydd a cherddi caeth. O fod wedi darllen trwyddynt oll cefais fy atgoffa o ba mor ddwfn yw ein chwedloniaeth – yn ei holl ystyron – a chymaint o danwydd sydd ynddi o hyd i’r dychymyg. Ond cododd pwynt diddorol iawn hefyd ynghylch chwedl a’r cof: beth rydym yn ei gofio neu ei goffáu, a sut rydym yn gwneud hynny? Nid yr un fath fydd chwedloniaeth pawb; ond rhaid hefyd ymgadw rhag troi hanesion anodd yn chwedlau pellennig yn unig. Megis y dywedir gan Jim Parc Nest yn ‘Culhwch a’i Olwen’: ‘Ein tasg ninnau ... troi eu chwedlau’n hanes’.

- Morgan Owen @ www.gwales.com,

An elegant volume comprising ancient and brand new poems - all inspired by legends from Wales.
An elegant volume comprising ancient and brand new poems - all inspired by legends from Wales.
Chwedl - Tîm Glannau Llyfni Mabinogi - Gwynn ap Gwilym Drysau (detholiad) - Twm Morys 'Gwed Stori'r Adar Majic!' - Manon Rhys Cwm Cuch - Iwan Llwyd Taith dros y Preselau - Idris Reynolds Y Mabinogi - Annes Glynn Y Cyfarwydd - Alan Llwyd Ynys ag Aeliau - Aneirin Karadog Dadeni (detholiad) - Dafydd Rowlands Llais Efnisien - Cen Williams Ynys (detholiad) - Gwyneth Lewis Branwen - Sian Northey Aderyn - Tîm Crannog Y Llais - Cen Williams Afon Alaw - Mari George Bedd Branwen - Marged Tudur Blodeuwedd - Alan Llwyd Tylluan - Robat Powell Araith Gronw Pebr - Saunders Lewis Y Nos yng Nghaer Arianrhod - Caryl Parry Jones Araith Seithenyn - R. Williams Parry Mererid - Hywel Griffiths Clychau Cantre'r Gwaelod - J. J. Williams Cantre'r Gwaelod - R. Williams Parry Pengwern - Myrddin ap Dafydd Y Dref Wen - Tecwyn Ifan Eryr Eli - Anhysbys Pwy Oedd Chwiorydd Heledd? - Elin ap Hywel Olwen - Tomi Evans Culhwch a'i Olwen - Jim Parc Nest Troedio'n Ysgafn - Haf Llewelyn Gwyn ap Nudd - Elfed Ymadawiad Arthur (detholiad) - T. Gwynn Jones Afallon - T. Arfon Williams Draig Wen, Draig Goch - Myrddin ap Dafydd Y Pethau Bychain - Eurig Salisbury Hud yn Nyfed (Aros Mae) - Christine James I Ddewi Sant (detholiad) - Ieuan ap Rhydderch Drws Gobaith - Mererid Hopwood Dathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant - Mari George Baled Ynys Llanddwyn - Christine James Galw ar Ddwynwen (detholiad) - Dafydd ap Gwilym Ar Ddydd Santes Dwynwen - Menna Elfyn Penllyn - Alan Llwyd Pair Ceridwen - Annes Glynn Gwrach Cors Fochno - Anwen Pierce Cynnig Bara - Aneirin Karadog Drych - Gwenallt Llwyd Ifan Rhys a Meinir - Gruffudd Antur Llongau Madog - Ceiriog Twm Siôn Cati - Ceri Wyn Jones Cilmeri - Gerallt Lloyd Owen Tân Llywelyn - Dic Jones
Les mer
Mae Mari George yn fardd, yn awdures ac yn gyfieithydd sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Produktdetaljer

ISBN
9781911584339
Publisert
2020-03-03
Utgiver
Cyhoeddiadau Barddas; Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
200 mm
Bredde
200 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
104

Redaktør
Illustratør