Yn 1978 cyhoeddwyd <i>Y Flodeugerdd Englynion</i> gan Wasg Christopher Davies. Y golygydd oedd y bardd a’r prifardd amlwg, Alan Llwyd, a oedd yn bennaeth Adran Olygyddol y Wasg. Yn 2009 dyma <i>Y Flodeugerdd Englynion Newydd</i> gan Gyhoeddiadau Barddas, eto dan olygyddiaeth Alan Llwyd, sydd yn awr yn Olygydd Cyhoeddiadau Barddas.
Casgliad o englynion unodl union gorau’r iaith a geir yma, wedi’i dosbarthu yn ôl pwnc. Yr oedd 1525 o englynion yn yr argraffiad cyntaf, ac mae 1858 yn yr ail argraffiad. Dywed y broliant i’r ail argraffiad fod y rhan helaethaf
o’r englynion ychwanegol wedi’i llunio yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Dywed y golygydd yn ei froliant i’r argraffiad newydd iddo fanteisio ar y cyfle i ddiwygio a chywiro rhai mân bethau a lithrodd i mewn i’r argraffiad cyntaf. Mae felly'n werth prynu’r ail argraffiad hyd yn oed os yw’r un cyntaf gennych.
Mae yma ragymadrodd manwl ar hanes yr englyn gan y golygydd, a nodiadau gwerthfawr ar lawer ohonynt ar y diwedd. Ceir atodiad hefyd ar grefft yr englyn, er bod yr ail atodiad ar amrywiadau’r englyn, a oedd yn yr argraffiad cyntaf, wedi’i hepgor yma. Yn yr argraffiad cyntaf ceir mynegai i’r beirdd, ond mae hwnnw wedi diflannu fan hyn ac, yn ei le, mae mynegai i deitlau’r englynion. Trueni nad oedd modd cynnwys y ddau. O ddewis, buaswn i wedi dewis y mynegai i’r beirdd.
Mae’n demtasiwn i gymharu diwyg y ddau argraffiad, oherwydd maent yn wahanol iawn i’r llygad. Mae i argraffiad 1978 glawr caled a siaced lwch, papur lliw hufen hyfryd, maint tudalen wythblyg, a theip moel. Mae i’r argraffiad newydd glawr meddal, papur gwyn teneuach, maint tudalen lletach na’r wythblyg arferol, ond teip mwy traddodiadol ei olwg. Ar y cyfan, mae’n well gennyf i'r wythblyg hen ffasiwn, y papur lliw hufen, ond y teip traddodiadol.
Petawn yn gorfod dewis fy hoff englyn, dewiswn hwn gan Dafydd Nanmor:
Mal blodau prennau ymhob rhith, - mal ôd,
Mal adar ar wenith,
Mal y daw y glaw a’r gwlith
Mae i undyn fy mendith.
Dyma gyfrol hyfryd yn llawn gemau bychain ar hyd y canrifoedd.
- Huw Ceiriog @ www.gwales.com,