Hyd y gwn i, ni chafwyd dim byd tebyg i’r llyfr hwn erioed o’r blaen yn Gymraeg. Yn un peth, casgliad o gerddi ydyw ar thema’r Holocost, a’r casgliad yn ffurfio undod sydd, yn ôl yr awdur yn ei Ragair, ‘yn rhyw fath o Kaddish’, sef math o weddi Iddewig o fawl ac ymbil am drugaredd. Dywedir yn y Rhagair hefyd nad oes yma ddim dychmygu, dim ond cofnodi tystiolaethau pobl go iawn am erchyllterau ‘gwersylloedd y crynhoi’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Peth arall, y mae’r cerddi yn llawn disgrifiadau graffig a hunllefus o greulondeb anghredadwy, a oedd yn dwyn ar gof, i mi o leiaf, y ffilm rymus honno, <i>Schindler’s List</i>.
Gan mai dioddefaint yr Iddewon yw’r thema, addas iawn yw bod naws Feiblaidd i’r traethu. Maentumir mai arwyddion yw’r creulonderau hyn o rywbeth ‘hen, ac anfad, gwaradwyddus’, a elwir yn ‘Nod Cain’, sef cyfeiriad at Genesis 4:15. Y mae’r gerdd ‘Cerddoriaeth Marwolaeth’ wedyn yn tynnu’n drwm ar Salm 137, ac yn gorffen ar yr un nodyn dialgar: ‘Gwyn ei fyd y sawl sy’n cipio dy blant ac yn eu dryllio yn erbyn y graig.’ Ac yn y gerdd ‘Cyfamod’ gofynnir yr un cwestiwn – ‘Os oes yna Dduw, / A hwnnw yn Dduw da, / Da a hollalluog, / Yna pam y digwyddodd y pethau hyn?’ – ag a ofynnwyd gan yr Iddewon yn y Gaethglud ym Mabilon bum canrif cyn geni Crist. Y mae’n gwestiwn nad oes ateb iddo.
Effaith y casgliad yw creu ym meddwl y darllenydd ryw dristwch anaele fod bodau dynol yn medru ymddwyn yn y fath fodd tuag at ei gilydd, a bod Duw, os oes Duw, yn caniatáu hynny. Mae’r cerddi yn ein gwthio i ddyfnderoedd anobaith am gyflwr dynolryw, a dim ond yn achlysurol iawn, fel yn adran IX, ‘Ond nid oedd Pawb yn Lleiddiaid’, y ceir unrhyw lygedyn o oleuni. Mesur o lwyddiant digamsyniol y cyfanwaith yw’r ymdeimlad o ddigalondid a diymadferthedd gerwin a ysgogir ganddo, a phrin bod llawer o gysur ychwaith yn y casgliad terfynol mai pwrpas yr Holocost oedd rhybuddio dynolryw fod ynddo ‘eithafion enbyd o ddrygioni ... / Ac nad ydyw grym ... / yn gallu gorchfygu, ond am ryw hyd, / Ysbryd anorchfygol bywyd’.
Teitl ail gyfrol Gwyn Thomas o farddoniaeth, a gyhoeddwyd yn 1965, oedd <i>Y Weledigaeth Haearn</i>. Gweledigaeth haearn sydd yn <i>Teyrnas y Tywyllwch</i> hefyd, a’r weledigaeth honno’n serio’r ymennydd ac yn gadael dyn yn syfrdan ac yn fud.
- Gwynn ap Gwilym @ www.gwales.com,