A collection of limericks edited by Tegwyn Jones. Casgliad o limrigau ar bob mathau o bynciau wedi'u golygu gan Tegwyn Jones. Troeon trwstan, sefyllfaoedd a chymeriadau anhygoel - fe'u ceir i gyd yma, wedi eu cofnodi'n ddigri a chlyfar. Rhowch y botel ffisig a'r tabledi yn ôl yn y cwpwrdd, ac agorwch y gyfrol hon.
Les mer
A collection of limericks edited by Tegwyn Jones. Casgliad o limrigau ar bob mathau o bynciau wedi'u golygu gan Tegwyn Jones. Troeon trwstan, sefyllfaoedd a chymeriadau anhygoel - fe'u ceir i gyd yma, wedi eu cofnodi'n ddigri a chlyfar. Rhowch y botel ffisig a'r tabledi yn ôl yn y cwpwrdd, ac agorwch y gyfrol hon.
Les mer
‘Fe gwrddais â rhywun o Tokyo Heb wybod ai merch neu dyn oedd-o ...’ Onid ydyn ni'n ysu’n barod i wybod beth oedd tranc y creadur hwn wrth iddo weld rhyfeddodau yn Siapan ... a dyna yw cyfrinach limrig arbennig o dda, wrth gwrs – cymeriad a hanner yn adrodd ei hanes, a hynny mewn pum llinell sionc ar odl. Ac, wrth gwrs, mae limrig da hefyd yn siŵr o godi gwên! Fel y gwelir o’r teitl, cawn yma lond sach a mwy o limrigau difyr a doniol wedi eu casglu gan Tegwyn Jones, ac yntau ei hun yn limrigwr o fri. Yn y rhagymadrodd cawn ganddo hanes ffurf y limrig ynghyd â'i le o fewn llenyddiaeth Gymraeg, cyn mynd ati i fwynhau’r geiriau ffraeth a'r delweddau lliwgar o fewn y cerddi. Nid llyfr i’w ddarllen o’r dechrau i’r diwedd mo hwn, ond un i’w gadw wrth ochr y gwely am chwarddiad neu ddau cyn cysgu, neu am wên fach pan fo pum munud yn rhydd am seibiant traed-i-fyny a phaned o de, a chyda dros bedwar cant o gerddi i’w mwynhau, bydd yn donic i’r darllenydd am sbel go dda! Cawn ddianc i ryw fyd hurt, hoffus a heriol, ac wrth eu darllen mae modd neidio’n feddyliol i fydoedd dirifedi! Fel y sonnir yng nghefn y llyfr, ‘does dim angen tabledi, tonic na ffisig yn y tŷ – mae digon o bic-mi-yp i’w gael rhwng tudalennau’r gyfrol ddigri hon’.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781906396466
Publisert
2011-11-18
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
1 mm
Bredde
1 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
118

Redaktør