‘Yn rhagair y llyfr hwn, dywed Christine James mai tua deng mlynedd yn ôl y darganfu ei llais fel bardd. Neu, ys dywed mewn cerdd ynddo, dyna pryd y dihunodd ‘yn gynnar’ un bore ‘a’r awen yn prancio’ trwy’i phen. Ymhen dim, yr oedd yn feistres mor fawr ar yr awen nwyfus honno fel y daeth yn agos at ennill coron Eisteddfod Genedlaethol 2004. Y flwyddyn ganlynol fe’i henillodd, gyda dilyniant o gerddi tra chelfydd am weithiau celf, dilyniant sylwgar, ffres, ysmala, sy’n hyfrydwch pur i’w ddarllen a’i ailddarllen.<br />
Y mae rhwng y llinellau yn cynnwys dilyniannau eraill a cherddi unigol eraill sydd yr un mor sylwgar a ffraeth – cerddi hunangofiannol am blentyndod yng Nghwm Rhondda ac am salwch ym Massachusetts, cerddi taith (i’r cyfandir ac i’r oesoedd canol), a cherddi achlysurol i gyfeillion a chydnabod. Eu rhyfeddod yw eu bod mor ir. Er yn perthyn i bethau eraill – i’r Beibl, i’r traddodiad barddol ac i weithiau’r meistri – y mae’r cerddi mor wanwynol, fel pe na bai neb wedi dylanwadu arnynt. Pam? Am fod gan Christine ddawn gywrain i lunio troadau ymadrodd disglair mor ddiffwdan, ac i fydru mor rhythmig.<br />
Dyma gyfrol o farddoniaeth synhwyrus, ffraeth, gan fardd sy’n wir deilwng o’r archdderwyddiaeth.’
Derec Llwyd Morgan
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,
Yn ôl y dystiolaeth yn un o’r cerddi, daeth Christine James wyneb yn wyneb â’r Gymraeg fel iaith fyw am y tro cyntaf yn ffermdy Tynewydd ym Mlaenau Cwm Rhondda. Yr oedd yn noson wyna a gwelodd oen bach amddifad yn cael ei wisgo gyda chot fenthyg o wlân er mwyn i ddafad arall a gollodd epil ei fabwysiadu’n reddfol. Wrth fyfyrio dros y profiad flynyddoedd yn ddiweddarach teimla Christine fod hithau hefyd y noson honno wedi gadael y ffermdy gyda gwisg newydd o Gymreictod amdani. Merch ysgol oedd hi ar y pryd ac aeth ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Cymraeg yn Aberystwyth. Yno hefyd y cwblhaodd ei doethuriaeth ac mae hi bellach yn Athro Cysylltiol yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Rai blynyddoedd yn ôl, a hithau’n graddol ymgryfhau ar ôl cyfnod o salwch difrifol, fe’i perswadiwyd gan ffrind da i droi ei llaw at lenydda. Dilynodd y cyngor doeth ac yn fuan iawn enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau yn 2005. Erbyn hyn hi yw Archdderwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.
<i>Rhwng y Llinellau</i> yw ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth ac, fel yr awgryma’r teitl, mae angen darllen manwl arni. Mae wrth ei bodd yn chwarae gyda geiriau ac yn eu chwalu yn ôl y galw er mwyn ychwanegu at haenau’r ystyron. Ymddirieda yn y darllenydd i weld y cysylltiadau.
Mae Christine James yn eang ei diwylliant ac wrth iddi ein tywys drwy orielau’r arlunwyr nid aralleirio’r paent a wna; nid yw’r gwaith celf namyn man cychwyn i sbarduno'i hawen bersonol hi. Yn yr un modd gall eglwysi’r ffydd ddihuno’r ddawn delynegol sydd ganddi. Ond nid yw’n colli golwg ar ei gwreiddiau, chwaith. I ferch o’r Cymoedd nid yw creithiau Aber-fan fyth yn bell o’r wyneb ac mae’r tribannau Morgannwg a’r gerdd hyfryd yn y Wenhwyseg i Dr Ceinwen Thomas yn ein dwyn yn ôl i fferm Tynewydd gan gyfannu’r cylch.
- Idris Reynolds @ www.gwales.com,