Aeth dros hanner canrif heibio ers pan gyhoeddwyd <i>Chwerwder yn y Ffynhonnau</i>, cyfrol gyntaf Gwyn Thomas o farddoniaeth. Un peth sy'n dal yn gwbl amlwg heddiw, fel yr oedd y pryd hynny – bod gan y bardd hwn ddawn eithriadol i roi teitlau trawiadol i'w lyfrau. Heb amheuaeth, fe lwyddodd Gwyn Thomas, yn well nag unrhyw fardd Cymraeg arall o'i genhedlaeth, i gyfleu sut brofiad fu byw drwy ail hanner yr ugeinfed ganrif a degawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain. O'r dechrau fe ddefnyddiodd iaith sy'n gyhyrog gyfoes a chyffrous. Yn wir, mae rhywbeth am ei fynegiant sy'n gwneud i chi feddwl bod dyfodol i'r iaith Gymraeg tra bydd ef yn dal i ysgrifennu.
Ar gefn y clawr, sydd yn un trawiadol iawn, fe ddywedir bod y bardd, wrth iddo groesawu cenhedlaeth newydd o'i deulu, yn datgan:
fod tywyllwch yn dal i gael ei dorri
gan rym disglair y goleuni.
Fe wnaeth Gwyn Thomas gryn enw iddo'i hun oherwydd y cerddi hynny o'i eiddo sy'n edrych ar orfoledd ac odrwydd bywyd trwy lygaid plentyn. Ei blant ef ei hun oedd yr ysbrydoliaeth i'w awen yn nyddiau <i>Enw'r Gair</i>. Bellach, ei wyrion sy'n tanio'r dychymyg. Mae'r wefr a'r doniolwch sy'n rhan o'u bywydau hwy yn cael mynegiant yma mewn cerddi fel 'Milwrol', 'Y Daith', 'Inter Galactig' ac 'Wrth Ddisgwyl am ei Ginio'.
Tra mae gobaith Cristnogol yn brigo i'r wyneb mewn cerddi fel 'Y Tu Hwnt i'r Beddau', rhaid dweud mai'r cerddi tywyll, llai gobeithiol wnaeth yr argraff ddyfnaf arnaf yn y gyfrol hon. Dyma'r cerddi sy'n trafod henaint a marwolaeth a ninnau yn byw 'ar glwyd denau y presennol'. Ond nid dirywiad a thranc yr unigolyn yn unig sy'n mynd â bryd y bardd.
Mae cerddi mwyaf ysgytwol y gyfrol yn ymwneud â diflaniad ein diwylliant anghydffurffiol, a marwolaeth yr iaith a'r genedl. Dyna destun cerdd agoriadol y gyfrol, 'Unwaith Eto', ac eraill fel 'Rhwng Deufyd', 'Ein Dad-wneud', 'Mewn Capeli', 'Ystyriwch y Bo', 'Ieithoedd' ac 'Yn Awr':
Y mae'r nos yn cau
arnom ninnau yn awr.
Fel y bu hi ar lwythau lu
mewn canrifoedd a fu,
y mae hi felly arnom ninnau
yn awr.
Yn awr, y cwbwl sydd yna ar ôl,
i ni sydd wedi dangos ein bod yn bobol
benderfynol o hunan-ddifaol,
ydi ein bodolaeth ni yn y gorffennol.
Cerddi gwleidyddol iawn yw'r rhai hyn ac mae ambell un fel 'Iaith Ryngwladol', 'In a Biwti Sbot in Wales' a 'Cymdeithas yr Iaith Saesneg' yn ddoniol neu'n ddychanol-eironig. Mae eraill, fel 'Gareth Maelor' a 'Diolch, Owi', yn deyrngedau i gyfeillion ymdrechodd i gynnal ein hiaith a'n diwylliant. Ond nid oes dianc rhag y teimlad na wêl y bardd fawr o ddyfodol i'r pethau hynny y rhoddodd ef oes o wasanaeth i'w meithrin. Mae rhywbeth yn ysgytwol yn y modd yr aeth yr awdur i'r afael â’r argyfwng enbyd sydd yn ein hwynebu fel Cymry Cymraeg.
Ceir gobaith yma, mae'n wir, ond un brau iawn ydyw.
- Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com,