The first volume of selections of poetic works from the Radio Cymru series Y Talwrn from January 2012 to August 2016, comprising over 350 poems and couplets by over 100 poets. Dyma'r gyfrol gyntaf o bigion Y Talwrn, Radio Cymru, dan olygyddiaeth y Meuryn newydd, Ceri Wyn Jones. Mae'n cynnwys y goreuon o'r pum cyfres gyntaf y bu wrth y llyw, rhwng mis Ionawr 2012 ac Awst 2016: dros dri chant a hanner o gerddi a chwpledi, a hynny gan dros gant o feirdd. Mwynhewch!
Les mer
The first volume of selections of poetic works from the Radio Cymru series Y Talwrn from January 2012 to August 2016, comprising over 350 poems and couplets by over 100 poets. Dyma'r gyfrol gyntaf o bigion Y Talwrn, Radio Cymru, dan olygyddiaeth y Meuryn newydd, Ceri Wyn Jones. Mae'n cynnwys y goreuon o'r pum cyfres gyntaf y bu wrth y llyw, rhwng mis Ionawr 2012 ac Awst 2016: dros dri chant a hanner o gerddi a chwpledi, a hynny gan dros gant o feirdd. Mwynhewch!
Les mer
Cyflwyniad Trydargerddi Cwpledi Limrigau Cerddi caeth (Cywyddau; Hir-a-thoddeidiau; cerddi ar fesur yr Englyn Milwr) Penillion ymson Tribannau beddargraff Cerddi rhydd (Telynegion;Sonedau) Englynion Penillion amrywiol
Les mer
Bydd yr hynafgwyr yn ein plith yn cofio rhaglen o’r enw Ymryson y Beirdd ar y radio yn y 1940au a’r 50au, gyda Sam Jones yn cadeirio a Meuryn, sef Robert John Rowlands, yn pwyso a mesur cynhyrchion y beirdd. Yna pan lawnsiwyd Radio Cymru ym 1977, daeth ymryson newydd ar y radio o’r enw Talwrn y Beirdd, gyda Gwyn Williams yn cynhyrchu. Y gŵr a ddewiswyd yn Feuryn y tro hwn oedd Gerallt Lloyd Owen, a bu ef yn meurynna am 32 o flynyddoedd. O 1998 ymlaen daeth y rhaglen i gael ei hadnabod fel Y Talwrn, ac mae’n rhaglen sy’n dal yn ei bri hyd heddiw. Ers 2012, Ceri Wyn Jones fu’r Meuryn ac ef sydd wedi golygu’r gyfrol hon, sy’n cynnwys detholiad o bigion Y Talwrn dros y pum mlynedd diwethaf. Syniad rhagorol fu cychwyn cyhoeddi pigion y rhaglen radio, a hon yw’r drydedd gyfrol ar ddeg yn y gyfres. Mae gwrandawyr cyson yn gyfarwydd iawn â’r math o gerddi a geir yma, sef amrywiaeth eang o gerddi caeth a rhydd yn cwmpasu pob math o destun, o’r llon i’r lleddf. Datblygiad newydd go ddiweddar yw’r drydargerdd, lle mae’n rhaid cywasgu’r cynnwys i ddim mwy na 140 o nodau cyfrifiadurol, a detholiad o’r trydargerddi a gawn ar ddechrau’r gyfrol. Ac mae’n syndod yr amrywiaeth a geir yma mewn cerddi mor fyr, yn amrywio o ddoniolwch pobl fel Dewi Pws Morris i gerddi mwy difrifol megis ‘Cyfarchiad Sul y Tadau’, Anwen Pierce, neu ‘Newyddion Da’, Eifion Lloyd Jones. Ond ar y cyfan cerddi o natur ysgafn a geir yn yr adran hon. Cwpledi yw cynnwys yr ail adran, ac eto mae tipyn o gymysgedd yma, gyda chwpledi diarhebol neu epigramau yn amlwg iawn, tebyg i hwn gan Gruffudd Owen – ‘Nid yw barn yn newid byd; Ofer heb weithred hefyd.’ Ac mae ambell berl ysgafn yma hefyd, fel hwn gan Gwenallt Llwyd Ifan – ‘Un hwyr, aeth Dewi drwy’r drain; Bachwyd ei bethau bychain!’ Dilynir hyn gan ddetholiad da o limrigau gwreiddiol a gogleisiol, cyn symud ymlaen i adran fwy sylweddol y cerddi caeth. Y cywyddau sy’n tra-arglwyddiaethu yn yr adran hon. Er mai gofyn am gerdd gymharol fyr a wneir ar y rhaglen, mae’n syndod faint o wirionedd ac o gyfoeth a geir yn y cerddi hyn. Enw sy’n ymddangos droeon ym mhlith pigion yr adran hon yw Idris Reynolds, ac wedi darllen ei gywyddau caboledig, hawdd deall pam. Dwy adran o naws ysgafn yn bennaf sy’n dilyn, sef y penillion ymson a’r tribannau beddargraff. Dyma’r cerddi byrion, clyfar sy’n gwneud i ni chwerthin yn braf pan glywn nhw ar y radio. Beth am y beddargraff hwn i ‘Berfformiwr Meim’, o waith Iwan Rhys: ‘Cyflawnaist bob un weithred heb inni fyth dy glywed, Ac felly ’leni, heb ’run smic, Fe roddaist gic i’r bwced.’ Ceir amrywiaeth o fesurau yn adran y ‘Cerddi Rhydd’, yn amrywio o delynegion byrion i gerddi mwy sylweddol a sonedau. Yma eto mae sglein ar waith y beirdd a cheir yma sawl cerdd gofiadwy. I ddiweddu’r gyfrol cawn gasgliad helaeth o englynion, sef o bosibl fesur mwyaf poblogaidd y beirdd caeth, ac mae’n rhyfeddol yr hyn y gallant ei gyflawni mewn pedair llinell gynganeddol, a cheir yma sawl englyn crefftus. Cloir y gyfrol â phedair o gerddi mewn penillion amrywiol. Un o gystadlaethau mwyaf poblogaidd y rhaglen radio yw cystadleuaeth y gân, a hi sydd fel rheol yn creu tipyn o hwyl a rhialtwch. Gofynnir am gerdd heb fod yn fwy nag ugain llinell, ond mae’r beirdd yn ddyfeisgar iawn wrth ddehongli beth yn union yw ugain llinell! A dyna pam na chynhwysir y caneuon yn y gyfrol, yn ogystal â’r ‘ffaith taw cerdd i’w pherfformio yw cân Y Talwrn yn ei hanfod’, fel yr eglura Ceri Wyn yn ei gyflwyniad i’r gyfrol. Yn ei gyflwyniad hefyd mae’n diolch i’r gwrandawyr ‘am ddeall – a hyd yn oed maddau i mi o bryd i’w gilydd – nad Gerallt ydw i’. Do, cyflawnodd Gerallt wyrthiau dros dymor hir, ond penderfynodd Ceri Wyn dorri ei gŵys ei hun. Nid oes angen gofyn am faddeuant, a gobeithio y cawn dalyrna am flynyddoedd i ddod, ac y gwelwn gyfrolau eraill tebyg i hon.
Les mer
Dechreuodd Ceri Wyn yn sedd y Meuryn ym mis Ionawr 2012. Sefydlodd ei arddull ddihafal ei hun wrth lywio’r gyfres radio gan brofi ei hun yn feistr yn ei faes ac yn un y mae llawer o barch iddo. Y mae ganddo ddwy gadair (1997 a 2014) a choron (2009) hefyd, ac mae'n awdur a darlledwr ar ei liwt ei hun. Cyhoeddodd ei gyfrol o gerddi, Dauwynebog, yn 2007 yn ogystal â chyfrolau i blant; y mae’n un o golofnwyr cyson y cylchgrawn Barddas.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781906396954
Publisert
2016-10-28
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
130 mm
Bredde
210 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
208

Redaktør