Mae’r casgliad hwn yn cynnwys cynnyrch Talwrn y Beirdd yn bennaf rhwng 2005 a 2010, er bod ambell gerdd o 2011 yno hefyd, sef blwyddyn olaf Gerallt Lloyd Owen fel Meuryn. Ceir y detholiad cyfarwydd o gynnyrch barddol a hynny gan dimau ar hyd a lled Cymru, yn hen ac yn ifanc.<br />
Fel y dywed y golygydd yn ei gyflwyniad i’r gyfrol:<br />

Er ymryson barddoniaeth â’n gilydd
i gael goruchafiaeth
ein Talwrn di-ddwrn a ddaeth
yn Dalwrn ein brawdoliaeth.<br />

• Dyma gasgliad olaf o bigion y Talwrn dan olygyddiaeth Gerallt Lloyd Owen, ac felly yn benllanw ar flynyddoedd o fod wrth y llyw mewn talyrnau led-led Cymru.
• Mae’r rhagymadrodd bywiog gan Ceri Wyn Jones, y Meuryn presennol, yn crynhoi cyfraniad Gerallt dros y blynyddoedd, cyfraniad y gyfres ac yn wir arwyddocâd y gyfrol hon o’r Pigio.

- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,

Ddeuddeng mlynedd ar hugain yn feuryn a golygydd deuddeg cyfrol o gyfres Pigion y Talwrn, ond hyd yn oed wedyn, mae ei gamp yn llawer mwy nag y gall yr un ystadegyn ei chyfleu. Ni fedrwn fynegi maint camp Gerallt Lloyd Owen yn well na’r hyn a ddywed ei olynydd ar <i>Y Talwrn</i>, Ceri Wyn Jones, yn rhagair y gyfrol hon: ‘Yn wir, mae’n deg dweud i Gerallt, drwy ei esiampl a’i anogaeth, lywio chwaeth artistig cenhedlaeth o feirdd.’

Ie, yn 1979 y dechreuodd y cyfan. Blwyddyn hanesyddol. Fel y dywed Ceri Wyn eto: ‘Dyma flwyddyn y “Na” i ddatganoli yng Nghymru. Dyma’r flwyddyn yr ymosododd byddin yr hen Undeb Sofietaidd ar Afghanistan.’

Yna, gyda hiwmor yr un mor gynnil ag un ei ragflaenydd, aiff ati i ddisgrifio 1979 fel blwyddyn fawr i unbenaethiaid – yr Ayatolla Khomeini a Margaret Thatcher. ‘Ac, er nad oes cysylltiad o bethau’r byd, dyma’r flwyddyn hefyd y bu i Gerallt Lloyd Owen gychwyn arni fel meuryn <i>Talwrn y Beirdd</i> ar Radio Cymru!’

Ie, sguboriau Gerallt yw deuddeg cyfrol y Pigion. Beirdd eraill wnaeth wasgaru’r grawn a’i feithrin. Ond mae marc Gerallt ar ystlys pob gambo a wnaeth gludo’r ŷd i’r ydlan. Gwir y dywed Ceri Wyn: ‘Mae’r graen sydd ar gerddi’r beirdd yn dyst i’w dyled ... a’n dyled ni i gyd iddo.’

Ac yn ogystal â bod yn feuryn, bu hefyd yn gyflwynydd dihafal. Fel y dywed y meuryn presennol, ‘Fe addysgodd ac fe blesiodd genhedlaeth o wrandawyr, oherwydd roeddent hwythau wrth eu bodd yng nghwmni ei lais, ei ffraethineb a’i angerdd tawel.’ Ac ie, Ceri, rhaglen Gerallt oedd y <i>Talwrn</i>.

Mae’r gyfrol olaf hon o’r deuddeg yn cynnwys pigion cyfresi 2005–2011 ac yn dilyn yr un patrwm llwyddiannus: adrannau yn cynnwys englynion cywaith, cwpledi, limrigau, penillion dychan, penillion ymson, telynegion a sonedau, englynion amrywiol a chywyddau.

Mae Gerallt yn cloi ei gyflwyniad byr olaf gydag englyn ffarwél:

Er ymryson barddoniaeth â’n gilydd
i gael goruchafiaeth,
ein Talwrn di-ddwrn a ddaeth
yn Dalwrn ein brawdoliaeth.

Ac fel un a gafodd y fraint o fod yn aelod o’r frawdoliaeth honno am flynyddoedd, carwn ychwanegu fy niolch gwylaidd personol i’r meuryn, y meistr a’r cyfaill annwyl.

- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com,

A collection of diverse serious and light-hearted poetry prepared by various poets throughout Wales for the popular radio series Talwrn y Beirdd, comprising poetry in free and strict metres. Casgliad o farddoniaeth amrywiol dwys a digri a baratowyd gan feirdd ar hyd a lled Cymru ar gyfer cyfres radio boblogaidd Talwrn y Beirdd yn cynnwys cerddi ysgafn a limrigau, cywyddau ac englynion, telynegion a chwpledi. Ceir yma bigion o 2005 hyd ddiwedd cyfnod Gerallt Lloyd Owen fel Meuryn.
Les mer
A collection of diverse serious and light-hearted poetry prepared by various poets throughout Wales for the popular radio series Talwrn y Beirdd, comprising poetry in free and strict metres. Casgliad o farddoniaeth amrywiol dwys a digri a baratowyd gan feirdd ar hyd a lled Cymru ar gyfer cyfres radio boblogaidd Talwrn y Beirdd yn cynnwys cerddi ysgafn a limrigau, cywyddau ac englynion, telynegion a chwpledi. Ceir yma bigion o 2005 hyd ddiwedd cyfnod Gerallt Lloyd Owen fel Meuryn.
Les mer
Mae Gerallt Lloyd Owen yn un o wŷr llên amlycaf y genedl ac yn enw sydd wedi gwneud cyfraniad helaeth i’r traddodiad barddol yng Nghymru. Bu wrth y llyw fel Meuryn ar raglen Talwrn y Beirdd Radio Cymru, ac fel Meuryn Ymryson y Beirdd y yr Eisteddfod Genedlaethol ers 32 o flynyddoedd.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781906396510
Publisert
2012-10-30
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
1 mm
Bredde
1 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
199

Forfatter
Redaktør