Cyn hyd yn oed mentro i ddarllen, rhaid cydnabod bod hon ymhlith un o’r cyfrolau harddaf i mi ei gweld ers tro byd. Yn y flodeugerdd arbennig hon o gerddi gan fenywod, mae darluniau trawiadol Myths n Tits yn denu’r llygad o’r cychwyn cyntaf, ond wrth gwrs, y farddoniaeth rhwng dau glawr sydd wir yn dal ei gafael gyda’r gyfrol hon.
Benthycwyd ei theitl o gerdd o eiddo Cranogwen, bardd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd wedi datblygu’n eicon LHDTC+ a ffeminyddol erbyn hyn. Cerdd o ddiolch yw’r gwreiddiol, i fam y bardd, a drwyddi draw yn y gyfrol mae detholiad hynod grefftus Nia Morais o gerddi’r cyfranwyr yn dathlu olyniaeth a chwaeroliaeth mewn amryw ffyrdd gwreiddiol a gwefreiddiol. Fe welwn, yn ei steil byrlymus arferol, Elinor Wyn Reynolds yn diolch i’r ‘Mam-geezers’ am y pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr; y bwydo, gwrando, bod yn gefn. Yn yr un modd, mae llinell olaf ‘Pe Bawn i’n Goeden’ gan Megan Lloyd yn blaen ond yn bwrpasol – ‘diolch, Nain’ – ac yn taro tant wedi’r pwyslais ar feithrin tyfiant a chynhaliaeth – ‘a gwn, er gwaetha’r amodau, byddaf yn goeden rhyw ddydd’.
Cynilach fyth yw cerdd Sian Northey, ‘Rwy’n un o genhedlaeth Jones’, sy’n sôn am y ‘tân gwyllt’ newydd ym mywyd y ferch sy’n mynd drwy’r menopos, y cyfnod hwnnw o hyder newydd, annisgwyl, ‘Lle cei ddweud dy ddweud / ac anwybyddu’r diawled / fu’n dy blagio ’rioed’.
Mae yna hefyd nifer o gerddi sy’n clodfori arwresau hanesyddol, ac heb os, mae perthyn i linach o ferched yn rhan bwysig o neges nifer o gerddi’r gyfrol, ein bod ni fel merched a menywod yma o hyd, serch camweddau’r gorffennol, ac rydym yma yn sgil y rhai sydd wedi arwain y ffordd.
Cyhoeddwyd blodeugerddi cyffelyb o’r blaen, wrth gwrs: <i> Hel Dail Gwyrdd</i> yn 1985 ac <i>O’r Iawn Ryw</i> yn 1992, y ddwy gyfrol dan olygyddiaeth Menna Elfyn – a bydd rhai’n holi a oes angen casgliad arall o’r fath gan ferched, heddiw yn 2025? Fodd bynnag, rhydd Morais fel golygydd reswm da i amlygu’r disgwyliadau afrealistig a’r heriau sy’n parhau i wynebu merched hyd heddiw yn ei golygyddol. Fodd bynnag, yr hyn a’m trawyd gyda’r gyfrol hon yw’r gorfoledd pur sy’n rhedeg drwyddi draw, o gydnabod heriau megis bod yn fam, bod yn ferch ifanc neu’n ferch oed arbennig, a chynigiwyd gofod diogel i feirdd newydd a phrofiadol gyfrannu, a chreu blodeugerdd sy’n disgleirio drwyddi draw.
- Miriam Elin Jones @ www.gwales.com,