Nid siarad drwy fy het oeddwn i pan broffwydais y llynedd y byddai cyfrol Karen Owen, <i>Siarad Trwy’i Het</i>, yn gystadleuydd peryg yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn eleni. Gan mor ddi-wmff y bu cynifer o gyfrolau barddoniaeth y blynyddoedd diwethaf wnes i ddim dychmygu am eiliad y byddai cyfrol farddoniaeth wirioneddol nodedig yn ymgiprys am wobr yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013 hefyd. Ond dyna mae cyfrol Aneirin Karadog yn ei haeddu. Cyhoeddodd gyfrol gyntaf ysgubol. Y peth gorau y gallaf ei wneud yw cynghori pawb sy’n cael y mymryn lleiaf o bleser mewn barddoniaeth i fynd ati i’w darllen. Ddim ers dyddiau’r Gwyn Thomas ifanc dwi’n cofio cael fy nghyfareddu cymaint gan gyfrol gyntaf bardd.
Mae Annwn y teitl yn cyfeirio’n syfrdanol o onest at y cyfnod pan oedd y bardd yn defnyddio cyffuriau. Mae ganddo ddigon o barch at ei ddarllenwyr – ac at ei awen – i beidio ceisio cogio nad oedd gwefr a phleser ac ysbrydoliaeth i’w cael o brofiadau o’r fath. Mor hawdd fyddai iddo wadu hynny a mynd ati i foesoli ac i draethu’n hunangyfiawn am y modd y ‘Gwelodd y Goleuni’. Mae ganddo’r reddf artistig a’r aeddfedrwydd i osgoi hynny. Yn ogystal, mae ei feistrolaeth ar ffurf a chrefft yn ei alluogi i fynegi’r profiadau a ddaeth i’w ran, y gwych a’r gwachul, mewn ffyrdd sy’n argyhoeddi, nid unwaith neu ddwywaith ond fwy neu lai yn ddi-feth.
Fel yn achos Karen Owen, mae gafael ddiogel Aneirin Karadog ar y gynghanedd yn grymuso ei fynegiant. Mae o’n hyderus oddi mewn i ganllawiau’r mesurau ac mae o hefyd yn gallu canu mewn cynghanedd yr un mor ddisgybledig bob tamaid yn y wers rydd.
Yn gam neu’n gymwys, ystyriaf mai lle adolygiad ar wefan Gwales yw tynnu sylw at lyfrau yn hytrach na mynd ati i’w dadelfennu. Yn achos yr Aneirin hwn o’r unfed ganrif ar hugain does dim diben ychwaith mewn dechrau dyfynnu o’i gerddi gloywon. Wrth ddechrau, fyddwn i ddim yn gwybod ble na sut i roi’r gorau iddi. Dyna, wrth gwrs, yw bod yn gaeth i bethau, boed gyffuriau neu gerddi. Y cyfan rydach chi angen ei wybod ydi bod hon yn gyfrol ardderchog. A’r unig niwed mae hi’n debygol o’i wneud i’ch iechyd yw ei gwneud hi’n anos i chi stumogi cerddi symol beirdd symol.
- Vaughan Hughes @ www.gwales.com,