Aeth chwe blynedd heibio ers i T. James Jones gyhoeddi <i>Diwrnod i'r Brenin</i>, a bu'r cyfnod yn gyfnod o golli sawl aelod o'i deulu, y ceir marwnadau dwys ac ysgytiol iddynt yn y gyfrol newydd hon. Ceir hefyd gerddi sy'n dathlu cyfnod o enillion: ei briodas â Manon, priodasau eu plant, a geni tri ŵyr. Dethlir, yn ogystal, gyfnod cyffrous wrth i Gymru adennill peth o'i hunan-barch yn sgîl cychwyniad ei Senedd. Mae <i>Nawr</i> yn gyfrol sy'n galaru ac yn gorfoleddu ar yr un pryd.<br /> Bellach, â'r bardd wedi cyrraedd oed yr addewid, daeth cyfnod yr hunanholi: 'o fentro gofyn ambell gwestiwn athronyddol a chrefyddol poenus nad wyf yn honni y gallaf eu hateb'. Mae'r hunanholi hwn, sy'n rhoi elfen gref o ddyfnder a dwyster i'r gwaith, yn amlwg drwy'r gyfrol, yn enwedig yn yr awdl 'Ffin', a enillodd i'w hawdur Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau yn 2007.<br /> Cynhwysir hefyd gyfieithiadau, neu 'fersiynau', o rai o weithiau Dylan Thomas, a hynny gan awdur-gyfieithydd penigamp <i>Dan y Wenallt</i>.<br /> Ceir yn <i>Nawr</i> gerddi sy'n arddangos holl fedrau a holl rychwant barddonol T. James Jones: cerddi cynganeddol traddodiadol ac arbrofol ynghyd â cherddi gogleisiol o 'rydd'. Dyma ganu T. James Jones ar ei rymusaf.
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,