Rydw i wedi cael profiad rhyfeddol. Profiad hollol wahanol i unrhyw brofiad a gefais i erioed o’r blaen wrth ddarllen barddoniaeth. Mae un o gerddi’r gyfrol hon yn ymwneud â gorchestion Lightning McQueen: “fo yw’r cyflymaf/ Ac, at hynny, y medrusaf/ O’r holl geir rasio sydd yna/ Yn Unol Daleithiau America”. Er mwyn dod i wybod rhagor am y rhyfeddod hwn, gŵglais yr enw. Canfyddais mai Lightning McQueen yw un o arwyr pennaf Cars, ffilm animeiddiedig o stiwdio gyfrifiadurol Disney-Pixar. Ond nid dyna’r unig beth a ganfyddais. O, na! Dilynais ddolen gysylltiol, ac o fewn dim o dro roeddwn i’n gyrru’r rhagddywedig Lightning McQueen, car rasio coch cerdd Gwyn Thomas, mewn gêm fideo ar-lein gan gystadlu yn erbyn Strip `The King’ Weathers, Chick Hicks, Boost a Snot Rod. Go brin y byddai darllen cerdd o waith unrhyw fardd arall wedi fy nhywys ar hyd llwybr – neu’n hytrach, gwrs rasio rhithwir – mor annisgwyl a phleserus. Ond mae’n gwbl briodol mai cyfeiriad mewn cerdd gan Gwyn Thomas, yn anad neb arall, a alluogodd hynny i ddigwydd. Gwyn Thomas, ysgolhaig a’r trwythodd ei hun yn chwedloniaeth a hanes y gwareiddiad Cymraeg ar draws y canrifoedd, yw’r parotaf o’n holl feirdd i gydnabod swyn a chyfaredd y ffilm a’r sinema. Dyma, fel y cofiwn, fathwr a hyrwyddwr ‘llunyddiaeth’. Ef hefyd, ers ymddangosiad ei bedwaredd gyfrol o gerddi Enw’r Gair ym 1972, yw’r bardd sydd wedi rhoi inni rai o gerddi plant mwyaf gogoneddus yr iaith. Nid darnau adrodd/llefaru ar gyfer eisteddfodau yw cerddi plant Gwyn Thomas. Cerddi yw'r rhain sy’n mynd â ni i fyd plant, gan gonsurio eu syndod a’u rhyfeddod at y byd o’u cwmpas ac at ddirgelion a gogoniannau iaith. Ymateb oedd o ar y cychwyn i’w blant ei hun a’u cyfoedion. Yn y gyfrol hon ymateb mae o i’w wyrion. Mae’r tad heddiw’n daid. Ond mae’r cerddi yr un mor gyfareddol. A pheryglus! Gocheler. Mae ‘Crocodeil Afon Menai’ a gyhoeddwyd gyntaf yng nghyfrol 1972 wedi ailymddangos yn y gyfrol hon. Nid am blant yn unig y mae o’n canu, wrth reswm. Mae o’n coffáu Wil Sam a Kyffin Williams a Ray Gravell, yn dathlu bydoedd Meredydd Evans a Phyllis Kinney, ac yn ein cystwyo am ymdrybaeddu yn ein colledion, o Gatraeth i’r Gymraeg ei hun. Ar sawl ystyr, mae pori eto yng ngwaith Gwyn Thomas wedi peri i’r darllenydd hwn sylweddoli pa mor fyfïol yw cynifer o feirdd eraill a pha mor gul yw eu syniadaeth a’u gweledigaeth.
- Vaughan Hughes @ www.gwales.com,