Enillydd y categori 'Barddoniaeth' yn seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2019!
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,
Credaf mai'r peth cyntaf i'w ddweud yw fod y gyfrol hon wedi peri i mi gael tröedigaeth. Fues i erioed yn hoff o gerddi yn y wers rydd gynganeddol. Efallai, wir, mai tröedigaeth rannol yw hi, ac mai cerddi gwers rydd y gyfrol hon gan Alan Llwyd a hoffais. Ond, fe'u hoffais yn fawr. Mae’r cerddi’n swnio mor naturiol. A dyna gyfeirio at grefft y cerddi hyn cyn hyd yn oed i mi grybwyll y neges. Ond mae’n deg dweud fod y ddeubeth yn un yng ngwaith Alan Llwyd, a dyma’r gyfrol swmpus hon yn profi hynny.
Bellach, y mae Alan Llwyd wedi cyrraedd oed yr addewid, a daeth y gyfrol hon i nodi ac i ddathlu hynny. Nodi, dathlu a thristáu hefyd wrth gyfeirio at droeon yr yrfa ym Meirionnydd, Llŷn, Penllyn ac Abertawe, yn ogystal â Chymru ddoe a heddiw. Mae’n fardd ac yn Gymro digymrodedd, gyda’r sicrwydd syniadaol ac emosiynol hwnnw’n britho’i waith. Nid cerddi’r ysgwyd llaw llipa yw’r rhain, ac eto mae yma lawer iawn o dynerwch hefyd.
Mae’n gyfrol swmpus 200 tudalen. Y mae’r rhan gyntaf, 'Cyrraedd', yn gerddi a ysgrifennwyd yn bennaf yn 2017 wedi i’r bardd dderbyn ysgoloriaeth a brynodd iddo amser oddi wrth ddesg ei waith bob dydd. Yr adran hon sy’n ymateb i’r ffaith iddo gyrraedd ei saith deg ac sy’n edrych yn fanwl, sensitif ar yr hyn a’i lluniodd fel person a bardd yn ystod y cyfnod maith hwnnw – llefydd, digwyddiadau a phobl. Yn ystod ei yrfa, bu Alan Llwyd yn fardd, yn olygydd cylchgrawn llwyddiannus, yn awdur cyfrolau swmpus ac yn academydd. Byddai’r cyfraniad a wnaeth mewn un o’r meysydd hyn yn unig wedi bod yn ddigon i’r mwyafrif ohonom! Y mae’n gwbl ryfeddol iddo allu llunio’r mwyafrif helaeth o gerddi’r gyfrol hon mewn cyfnod mor fyr.
Rhaid dweud fod patrwm yr adran 'Cyrraedd' wedi’i lunio’n ddifyr o gelfydd hefyd, lle ymdrinnir â’i fywyd fel siwrnai faith ar long gyda chofnodion o’r Llyfr Lòg yn cynnal rhyw fath o naratif. Nid yw’r môr byth ymhell o’r cerddi, na dŵr yn gyffredinol, gan fod ganddo gerddi trawiadol am lynnoedd Penllyn hefyd.
Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, mae’r bardd yn defnyddio sawl mesur, yr englyn a chyfresi o englynion, y cywydd, cerddi mewn mydr ac odl, sonedau ac yn y blaen, ac mae’n dangos ei feistrolaeth ar y cyfan. Mae ei sonedau bob amser yn drawiadol o ran y grefft a’r dweud, a nifer ohonynt yma yn trafod gwrthrychau ei gofiannau a chyfrolau eraill ganddo.
Y mae nifer o gywyddau marwnad cywrain yma hefyd. Yn y rhain, nid cofio’r person yn unig a wneir, ond cyflwyno cyffes ffydd y bardd o ran bywyd a llên a gwerthoedd yr un pryd. A dyna, mewn gwirionedd, sy’n disgrifio’r gyfrol hon orau. Bardd sydd o ddifrif am ei waith ac am yr hyn sy’n bwysig iddo – y teulu yn anad dim – a bardd sy’n ceisio cynnal fflam ei weledigaeth mewn byd llawn croeswyntoedd.
- Dafydd John Pritchard @ www.gwales.com,