Fel y dywed y broliant ar gefn y gyfrol, ‘Bardd ei gynefin yw Elwyn Edwards’ ac felly mae’r teitl yn talu’n llawn am ei le. Trwy’r gyfrol cawn gyfle i ddod i adnabod y cynefin hwnnw, ac yn fwy na dim i adnabod ei bobl. Yn yr un modd â’i gyfrol gyntaf <i>Aelwyd Gwlad</i>, mae yma lu o gerddi i drigolion Penllyn. Cawn rannu cyfnodau llawen genedigaeth a phriodas gyda llawer ohonynt a rhannu’r galar o golli aml un a fu’n gonglfaen i’r fro, rhai fel R. J. Rowlands:
Yr oedd pob pleth ym mrethyn – ei ganu
Yn gynnil edefyn,
Ond teyrn aeth i’r gwead tyn
A llwydodd y dilledyn.
Englyn teilwng iawn i’r dilledydd o fardd o’r Bala. Ond nid pobl Penllyn yn unig gewch chi yma. Mae’n bwrw ei rwyd yn ehangach i ganu am arwyr Gwynedd, er enghraifft John Tudor a Geraint Jones. Mae yma arwyr cenedlaethol hefyd, yn eu plith mae ‘Merch y Canrifoedd Mud’, sef Mererid Hopwood, englyn i Tudur Dylan Jones ac i Alun Ffred Jones, a chywydd trawiadol iawn i anwylyn lleol a oedd hefyd yn arwr cenedlaethol, Ifor Owen. Yn y cywydd i Ifor Owen mae Elwyn Edwards ar ei orau. Llwyddodd i ddarlunio gwaith celf crefftus Ifor Owen ac mae’r ffordd y llwyddodd i gyfleu hwyl ‘Hwyl’ ar gynghanedd yn hynod o gampus.
Cyfrol gan brifardd yw hon, ac mae’n gyfle iddo arddangos ei holl arfogaeth wrth ganu i’r llon a’r lleddf, i’r haniaethol a’r diriaethol. Llwyddodd i wneud hynny gan argyhoeddi. Mae’r driniaeth yn ysgafn ar dro ac yna gall ein taro fel gordd, fel yn yr englyn i'r wawr uwch Llyn Celyn:
Daeth tân drwy’r wybren ennyd – a lledu
Fel llid dros y gweryd
I edliw y graith waedlyd
I’r hil sydd yn llwfr o hyd.
Braf yw cael cyfrol sydd yn gofnod cymdeithasol arbennig iawn, ond gwell fyth yw cael casgliad teilwng o waith un sy’n feistr ar y gynghanedd.
- Beryl H Griffiths @ www.gwales.com,