A collection of poems from young poet Elis Dafydd reflecting the hopes and anxieties of his generation. Casgliad egnïol o gerddi gan fardd sy'n teimlo i'r byw ynghylch pryderon a gobeithion ei genhedlaeth.
Les mer
A collection of poems from young poet Elis Dafydd reflecting the hopes and anxieties of his generation. Casgliad egnïol o gerddi gan fardd sy'n teimlo i'r byw ynghylch pryderon a gobeithion ei genhedlaeth.
Les mer
Arwyr John Davies, Merêd a John Rowlands Er fy ngwaetha’ ‘Petasai’ A feddo gof / Paradwys ffŵl #2 Y cyfan Chwarae cuddio Nes bod bysedd yn brifo Tywod Bore yn Eldon Terrace Ymson cariadon Ga’ i? Ac eto nid myfi #2 Mi fynnwn I ffrind Wrth wisgo fy hoff grys ‘Canys ni allaf lwyr anghofio’r ias ...’ Mae Gwenan yn gwybod I Guto Y bobl yn y lluniau yn y Tate Gwreichion Golygfa 1: Bangor 26.ix.14 Golygfa 2: Caeredin 18.ix.14 Golygfa 3: Caeredin 19.ix.14 Golygfa 4: Bangor 26 xii.14 Golygfa 5. Bangor 26.i.15 Golygfa 6:Caeredin 14.ii.15 ‘A dwyn ei chlod drwy Gymru’ Dychwelyd i Aber Galar Glaw Aberystwyth ‘Dw i’m yn licio leim yn fy lager ddim mwy’
Les mer
Cyfrol fach o gerddi 48 tudalen yw Chwilio am Dân, gan fardd ifanc a enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2015. Cyfrol yn y gyfres Tonfedd Heddiw yw hi, sef cyfres gan Gyhoeddiadau Barddas sy’n rhoi cyfle i feirdd ifanc i gyhoeddi eu gwaith. Ac mae’r gyfrol hon yn adlewyrchu byd yr ifanc yn ei wahanol weddau. Yn ei gerdd agoriadol ‘Arwyr’ mae’r bardd yn sôn am arwyr a fu’n rhan o’i fywyd cynnar ac a ddylanwadodd arno, heb enwi neb yn benodol. Ond wrth bori drwy’r gyfrol fe welwn fod Iwan Llwyd yn ddylanwad arno. Yn y cerddi ‘Gwreichion’, a enillodd Gadair yr Urdd iddo, mae pennill o waith Iwan yn gyflwyniad i’r casgliad. Roedd Iwan ei hun wedi ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni, 1990, am gasgliad o gerddi ar yr un testun. Mae’r gerdd ‘Glaw Aberystwyth’ hefyd yn nodi dylanwad Iwan Llwyd. Er bod yma nifer fach o englynion, yn cynnwys un i ‘John Davies, Merêd a John Rowlands’, cerddi rhydd yw’r mwyafrif helaeth. Mae pleserau byd yr ifanc yn amlwg iawn yma – y cymdeithasu, y dafarn a’r ddiod, a chariad. Sonnir llawer am gariad a chariadon, a’r pleserau a’r poenau sy’n gysylltiedig â byd serch. Mae’r dadrithiad a’r hiraeth pan ddaw perthynas i ben, fel yr hyn a geir yn y gerdd ‘Y Cyfan’, yn thema gyson. Weithiau, anodd yw rhoi’r un a garai allan o’i feddwl ar ôl i’r berthynas orffen, fel yn ‘A feddo gof’ – ‘ond mae’r drws tuag Aberhenfelen yn gwrthod cloi’. Ond mae yma fyfyrio dwysach hefyd. Yn ‘Chwarae Cuddio’ mae’n delio ag iselder ysbryd ffrind a'r ffordd y mae iselder yn mynnu dal ei afael arnoch. Er bod pethau fel petaent yn gwella, mae'r iselder yn gyndyn o gilio. Yn ‘Petasai’ mae’n sôn am fel y byddai henaint yn dod â rhyw fath o ryddid iddo – cael ymryddhau o’r holl ofalon, y pwysau a’r camgymeriadau a wnaeth yn ystod ei fywyd. Eto yn y gerdd ‘Ga i’ mae’n meddwl am gyfeillion yn marw, ac er nad yw am weld ffrindiau’n marw mae ‘isio byw’n ddigon hen i gael diolch am eu cwmni ar hyd y daith’. Yn y casgliad o gerddi ‘Gwreichion’, mae’n mynd i’r Alban adeg y refferendwm am annibyniaeth. Mae’n gadael sefyllfa druenus Cymru, gan fynd yn llawn gobaith i ‘ddinas arall lle mae’r wawr yn dod yn nes’. Yna daw’r siom ar ôl colli’r bleidlais, a nifer o’r ieuenctid yno ‘yn hel eich dagrau mewn gwydrau gwag’. Mae’n dal i feddwl am sefyllfa ddigalon Cymru wrth deimlo’r ‘glaw yng Nghilmeri a’r eira yn Abaty Cwm-hir’. Gorffennir y gyfres ar nodyn mwy gobeithiol. Pleser yw gweld y gweithgarwch llenyddol ymysg ein hieuenctid y dyddiau hyn, a gweld cynifer o feirdd ifanc yn barod i weld cyhoeddi eu gwaith. Ac mae’r gyfrol fach yma’n ychwanegiad gwerthfawr i’r cynnyrch hwnnw. Mwynhewch y darllen.
Les mer
Bardd o Drefor, wrth droed yr Eifl, yw Elis Dafydd. Mae'n gyfieithydd wrth ei waith bob dydd ac newydd gwblhau cwrs MA ym Mhrifysgol Bangor. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2105 yng Nghaerffili gyda'i gerdd 'Gwreichion' (a gynhwysir yn y gyfrol). Roedd hefyd yn un o’r beirdd ifanc wnaeth gymryd rhan yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2013.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781906396916
Publisert
2016-04-21
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
170 mm
Bredde
120 mm
Dybde
5 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
48

Forfatter