Yn ei gyfwyniad i'r gyfrol, dywed Yr Athro Tudur Hallam, wrth gyfeirio at y cerddi newydd yn y casgliad hwn: 'Yn nifer o’r cerddi hynny, megis 'Y Fordaith' ac 'Ymweld â Bwthyn Hardy', clywn lais bardd sy'n boenus ymwybodol o rym amser a'i feidroldeb ef ei hun 'wrth i oed yr addewid / nesáu'. Fel y prawf y gerdd 'Eglwys y Carcharorion, Henllan', nid llais llwyr ddigalon ydyw'r un diweddaraf hwn, ond ar lawer cyfri llais anghysurus, hunllefus ydyw hefyd – llais y bardd a adawyd ar ôl, llais Aneirin, a llais y bardd digenedl, llais Gruffudd ab yr Ynad Coch. Yn sicr, mae’n ganu cwbl ysgytwol:
Pwy fydd ein lladmerydd, mwy,
a'r iaith ei hun ar drothwy
dilead? A oleuwn
eto i'n hiaith y tân hwn?
Marwydos, Gymru, ydwyt;
lludw oer fel Gerallt wyt.
Yn y cywydd marwnad i Gerallt Lloyd Owen, fel yn y farwnad i Gwilym Herber ac i James, cyfaill ei fab, mae yma ganu gwirioneddol rymus sy'n llwyddo i gyfuno'r personol a'r dynol-oesol ynghyd. Wrth i feidroldeb eraill wasgu ar gorff, meddwl ac enaid y bardd, dyma ef ei hun, nid yn annhebyg i Guto'r Glyn yn ei henaint, yn canu rhai o'i gerddi mwyaf ysgytwol erioed. A dyma brofi o'r newydd y wefr honno sy'n nodwedd ar farddoniaeth fawr, megis yn y villanelle hyfryd, drist 'Lleihau y mae'r glaslanciau fesul un'.
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,
Braint amheus oedd derbyn y gwahoddiad i adolygu’r gyfrol hon cans gwyddwn na allwn wneud cyfiawnder â chyfrol mor gyfoethog ei hawen. Pwy mewn gwirionedd a fyddai’n mynd ati i gwestiynu techneg a gweledigaeth Michelangelo o fardd?
Yr hyn a’m trawodd gyntaf oedd rhychwant y llais. Fel rheol, un gân estynedig sydd gan feirdd, a throi o gwmpas nodau honno a wnânt yng nghorff eu cerddi. Nid felly Alan Llwyd. Gellid tybio fod tri neu bedwar bardd gwahanol yn canu o dan ei enw.
Mae llais y bardd gwlad yma. Dathla gyda’i bobl yn eu llawenydd ac, ar achlysuron tristach, hiraetha am y rhai a gollwyd, yn lleol ac yn genedlaethol, mewn englynion neu gywyddau, gan gynnwys un nas gwelwyd o’r blaen i gofio Gerallt Lloyd Owen. A thrwy’r cyfan ni ellir llai na synhwyro seiniau cnul yr iaith Gymraeg ei hunan.
Clywais gwyno yn ddiweddar nad oes modd dod i adnabod nifer o’n beirdd modern drwy eu cerddi. Nid yw hyn yn wir am Alan Llwyd. Wrth iddo agor cloriau’r albwm teuluol, cyflwynir ni i aelodau’r llinach o’r ddau du. Daw’n amlwg hefyd fod y teulu agos yn bopeth iddo wrth iddo farddoni profiadau’r ŵyr a’r mab a droes, yng nghyflawnder yr amser, yn ŵr, yn dad ac yn daid. Unwaith eto canwyd y cyfan i gyfeiliant cyson yr hen gloc mawr teuluol.
Ar ben hynny mae’n fardd y ddynoliaeth gyfan. Fel academydd bu’n ymchwilio i hanes Hedd Wyn ac o ganlyniad daeth y Rhyfel Mawr ac erchyllterau’r holl frwydro a’i dilynodd yn ffynhonnell bwysig iddo. Mae’n arwyddocaol mai cerdd olaf y gyfrol yw englyn i Aylan Kurdi, y plentyn teirblwydd a olchwyd i’r lan wrth ffoi mewn cwch o Syria’n dyddiau ni.
Ychwaneger hefyd yr amrywiaeth o fesurau a ddefnyddir. Gan fod ei afael ar deithi’r iaith mor gadarn, mae’r cynganeddu yn dwyn ein hanadl. Wrth ddarllen ei gywydd coffa i’r bardd Gwilym Herber o Graig-cefn-parc, rhyfeddwn at bosibiliadau cynganeddol y gair ‘craig’, gyda ‘g’ fach neu ‘g’ fawr. Ceir yma hefyd sonedau moethus gyda’u hodlau dwbl ynghyd â cherddi penrydd sy’n gyforiog o gynghanedd.
O ystyried maint y cynnyrch, helaethrwydd y maes a gloywder y grefft, mae’n anodd meddwl am gyfrol arall o farddoniaeth i’w chymharu â hi.
- Idris Reynolds @ www.gwales.com,