A collection of poems by the crowned bard from Pembrokeshire. Includes poems of various metres, which praises the community and the area in which he was born and bred. Casgliad o gerddi gan y prifardd o fro'r Preseli. Ceir yma gerddi caeth a rhydd, cerddi sy'n deillio o'i gynefin ac o'r gymdeithas o'i gwmpas, a cherddi sy'n amlygu'i ffydd Gristnogol.
Les mer

Bardd ei gynefin yw Eirwyn yn bennaf. Tir a daear Sir Benfro a roes iddo'r ysbrydoliaeth i lunio'r mwyafrif o'i gerddi. Ymdeimlo â chyntefigrwydd y gweundir a'r tir diffaith, ymateb i hanes a thraddodiadau cyfoethog ei filltir sgwâr, a rhoi mynegiant i agosatrwydd y gymuned gymdogol-Gymraeg y tyfodd i fod yn rhan annatod ohoni yw rhai o brif themâu ei farddoniaeth. Y mae ei ymlyniad wrth y ffydd Gristnogol yn brigo i'r wyneb dro ar ôl tro hefyd. Bardd glân ei grefft a thelynegol ei naws ydyw yn y mesurau rhydd a chaeth fel ei gilydd ac y mae eglurder mynegiant yn hollbwysig iddo bob amser.
Les mer
Brodor o ardal y Preseli yng ngogledd Sir Benfro yw Eirwyn George. Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed a bu'n gweithio gartref ar y ffarm am ddeuddeng mlynedd. Wedi bwrw blwyddyn yng Ngholeg Harlech a graddio yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, bu'n athro Cymraeg a Hanes yn Ysgol Uwchradd Arberth ac Ysgol Gyfun y Preseli a hefyd yn Llyfrgellydd Gweithgareddau yn Llyfrgell y Sir yn Hwlffordd. Enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – yn Abertawe, 1982, ac yn Llanelwedd, 1993. Cyhoeddodd hefyd bymtheg o lyfrau yn ymwneud â hanes a llenyddiaeth, a hwn yw ei drydydd casgliad o farddoniaeth, yn dilyn O'r Moelwyn i'r Preselau (1975) ar y cyd â T. R. Jones, a Llynnoedd a Cherddi Eraill (1996).
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781906396169
Publisert
2009-03-19
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
210 mm
Bredde
149 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
128

Forfatter