Fe wyddwn i lawer mwy am <i>Llyfr Mawr y Plant</i> nag am Lyfr Du Caerfyrddin. Wrth edrych yn ôl, dwrdiaf fy hun am fyw fel iâr tan fwced. Ond nawr fe wn i lawer yn fwy am y Llyfr Du, ynghyd â rhai o’n trysorau llenyddol eraill.
Ymatebion a geir yma gan feirdd cyfoes i Lyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Aneirin, Llawysgrif Hendregadredd, Llyfr Taliesin, Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest. Yn ei gyflwyniad, ar ôl dyfynnu Morgan Llwyd, a ddisgrifiodd lyfrau fel ‘ffynhonnau’, cyfeiria Eurig Salisbury at y llawysgrifau dan sylw fel ‘Chwe tharddell ddiwylliannol a dyfodd yn rhyferthwy ... eu dyfroedd yn llifo’n llafar hyd heddiw’. Nod y gyfrol, meddai, yw tywys cynulleidfaoedd newydd tuag at yr hen ryfeddodau hyn. Diolch am yr arweiniad.
Mae hwn yn nod gwerth chweil, gan mai syniad llawer ohonom am y llawysgrifau hyn yw memrynau’n hel llwch ar silffoedd tywyll, anhygyrch. Creiriau amgueddfaol. Ond gwerth y llawysgrifau, medd Eurig, yw eu bod nhw’n dal i fod yn berthnasol heddiw. Maent, meddai, ‘yn ogofâu hud o drysorau’. Cloddir y trysorau hynny gan un ar bymtheg o feirdd cyfoes.
Mae i’r gair ‘buarth’ yn y teitl arwyddocâd gan mai un o’i ystyron yn Llyfr Taliesin oedd man ymgynnull neu hafan. Mae’r penodau sy’n cyfeirio at y chwe llawysgrif yn gyfuniadau o ffeithiau hanesyddol a chefndirol clir a syml ynghyd â cherddi perthnasol gan rai o’r beirdd. Dywedir, er enghraifft, am Lawysgrif Hendregadredd mai yn Abaty Ystrad-fflur, lai na milltir o’m cartref, y cofnodwyd y fersiwn Lladin ac un o’r fersiynau Cymraeg. Teimlaf yn freintiedig!
Ond peidiwch â meddwl mai rhyw gyfraniad sych, ysgolheigaidd a geir yma. Trowch at farwnad Gruffudd Owen i ‘Pom’ ac fe’ch heriaf i ddal heb chwerthin. Bochdew, gyda llaw, oedd Pom (1991–1996). A llwydda Eurig Salisbury i dynnu cymhariaeth rhwng Arthur a chlwb nos Pier Pressure yn Aberystwyth. Ac wrth drafod y Llyfr Coch mae Twm Morys yn cymharu ei chwilota ymhlith geiriau tywyll â ‘busnesa’ Miss Marple.
Ni ddylwn gloi’r adolygiad hwn heb gyfeiriad at ddiwyg y gyfrol. Mae hi’n odidog o hardd. Sylwaf mai’r dylunydd yw Olwen Fowler. Haedda gael ei chydnabod ymhlith y cyfranwyr disglair eraill, rhy niferus i’w henwi yma.
- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com,