O Lansannan i Lanelidan, o Ruddlan i Langwm, daw John Glyn Jones ag un-ar-ddeg o feirdd cyfoes bro Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau ynghyd mewn cyfrol sy'n cynnig casgliad bywiog o gerddi caeth a rhydd. Cyflwynir hefyd gipolwg ar gyfoeth traddodiad barddol y fro arbennig hon gan E. Gwynn Matthews.
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,
Rhaid dweud fy mod fymryn yn bryderus pan dderbyniais y gyfrol hon i’w hadolygu. Wedi’r cwbl, yr ydym wedi gweld cyhoeddi nifer o gyfrolau tebyg dros y blynyddoedd. Dyna i ni gyfres Barddoniaeth y Siroedd welodd olau dydd ddechrau’r chwedegau. Yn y saithdegau, wedyn, ymddangosodd Cyfres Beirdd Bro. Y gyfres ddiweddaraf a gyhoeddwyd oedd Cerddi Fan Hyn gan Wasg Gomer. Ofnwn, felly, fod yr arfer o ddyrchafu barddoniaeth bro yn cael ei odro’n sych.
Ond, pan agorais gloriau’r gyfrol hon diflannodd fy ofnau. Mae cyflwyniad cryno E. Gwynn Mathews i ‘Draddodiad barddol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau’ yn eithriadol ddifyr. Cyfeirir at ugain a mwy o feirdd hanesyddol yr ardal yn y cyflwyniad hwn. Maent yn ymestyn o Madog ap Gwallter a Llygad Gŵr i Iolo Goch, Gruffudd Hiraethog a Thudur Aled hyd at Gwilym R. Jones yn yr ugeinfed ganrif.
Tasg y golygydd, John Glyn Jones, fu casglu ynghyd weithiau un ar ddeg o feirdd cyfoes gyda bywgraffiad byr o bob un. Mae yma ddeg o feirdd gwrywaidd ac un fenyw. Maent yn barddoni yn bennaf yn y mesurau caeth, a’r eithriad yw Nia Môn – yr unig ferch. Er mor raenus yw gwaith y beirdd cynganeddol i gyd, mae'r darllenydd yn gwerthfawrogi cyfraniad gan fardd sy’n gryn feistr ar y mesur rhydd.
Naws traddodiad y bardd gwlad gyda’i bwyslais ar ganu cymdeithasol sydd ar lawer o’r cerddi. Rhywbeth arall a dynnodd fy sylw yw pa mor bwysig yw’r gyfres Talwrn y Beirdd yn y gwaith o gynnal a meithrin y traddodiad barddol Cymreig heddiw. Bron nad yw cyn bwysiced â nawdd yr uchelwyr yng nghyfnod Iolo Goch – er nad yw'n talu cystal, efallai!
Synhwyraf mai hon fydd y gyntaf mewn cyfres flynyddol fydd yn ymddangos yn yr ardaloedd hynny lle cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol. Siawns na ddaw un o Sir Gaerfyrddin yn 2014 ac o Faldwyn yn 2015. Fe fyddwn i fy hun yn croesawu hynny, yn enwedig os cedwir at safonau uchel y gyfrol hon.
- Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com,