Er bod Kate Roberts, Syr T. H. Parry-Williams a D. J. Williams yn meddwl y byd o Rosgadfan, Rhyd-ddu a Rhydcymerau, mewn alltudiaeth wirfoddol yn Ninbych, Aberystwyth ac Abergwaun yr arhosodd y tri. Brogarwr o fath gwahanol yw Aled Lewis Evans. Ei ddeunydd ef yw’r bobol a’r llefydd yr ymgartrefodd yn eu plith yn Wrecsam a’r cyffiniau. Troi bywydau a digwyddiadau bob dydd y gymdeithas honno'n gerddi yw ei gamp.
Yn aml digwyddiad digon distadl yw’r man cychwyn. Ond gwêl y bardd arwyddocâd dyfnach ac ehangach mewn manion betheuach o’r fath. Mae plentyn difreintiedig a oedd wedi cnoi ei ewinedd i’r byw yn ymdrechu’n lew i blicio oren. Dysgodd yn ifanc `sut i grafu’r croen caletaf oddi ar y suraf o brofiadau/ a chanfod gronyn o felyster/ oddi mewn’.
Dro arall, a’r bardd yn gyrru ar un o briffyrdd Richard Brunstrom, y Cymreigiwr hwnnw o gyn-prif gwnstabl, mae arwydd matrix yn rhybuddio bod ‘y draffordd ar gau liw nos’. Mae’n dymor y Nadolig. Mae gweld y ddau air ‘liw nos’ mewn ysgrifen electronaidd ar yr arwydd yn peri iddo feddwl yn syth am y bugeiliaid hynny a wyliai eu praidd liw nos. Dyma enghraifft deg o’r modd, heb fod yn stroclyd na gorymdrechgar, y mae Aled yn cael ei ysgogi i ganu.
Mae cydymdeimlad a dyneiddiwch Aled Lewis Evans yn amlwg yn y cerddi hynny lle mae o’n trafod ei brofiadau fel athro - ac athro cyflenwi - yn ysgolion cyfun y ffin. Dan amgylchiadau arferol byddai bratiaith y disgyblion, fel y’i dyfynnir mewn nifer o gerddi, yn codi gwrychyn llawer ohonom. Ond mae gallu’r bardd i uniaethu efo’r bobol ifanc, i gymryd tynnu ei goes, i weld eu cryfderau, yn peri i ninnau edmygu’r hyn a gyflawnwyd ganddynt yn hytrach na dirmygu eu diffygion. Dan law llai celfydd nag un Aled gallai’r cerddi am ei ddisgyblion fod yn nawddoglyd neu’n siwgwraidd o neis-neis. Ond osgoir pob arlliw o hynny gan y diffuantrwydd sy’n pefrio drwy’r cerddi.
Cofiwch, mae hyd yn oed Aled yn gallu troi'r tu min weithiau. ‘Silly bitch’ ydi’r fam sy’n rhwystro ei phlentyn rhag benthyca llyfr Cymraeg o lyfrgell Wrecsam. Ac nid yw’n ddall ychwaith i agweddau arteithiol eisteddfodau cylch yr Urdd - beirniaid dieneiniad a threfniadaeth wantan! Cofiaf yn dda'r gri hon gan riant eisteddfodol: `Doedd ’na’m rhagbrofion yn y diwedd/ felly ’dan ni ‘di bod yma am oriau/ a doedd ’na’m paned i’w gael yn unlle.’ Ac mae ei gerdd ysgytwol ‘Anhysbys yn Ardudwy’ yn brawf bod Aled yn gwybod yn iawn nad Wrecsam yw’r unig dalcen caled sy’n wynebu’r Gymraeg erbyn hyn.
- Vaughan Hughes @ www.gwales.com,