Yn y gyfrol ddifyr hon mae’r awdur yn cyflwyno englynion Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen o'r 9fed ganrif i gynulleidfa newydd. Ceir trafodaeth ar gefndir hanesyddol a chyd-destun y cerddi o fewn y traddodiad barddol ac ar elfennau thematig yr englynion, sydd gyda'r canu cynnar mwyaf apelgar i gynulleidfa fodern: Canu Llywarch Hen - yr hen ryfelwr sy’n galaru am farwolaeth ei feibion ar faes y gad, ac sy’n myfyrio ar ei unigrwydd yn ei henaint, a Chanu Heledd, hithau, yr unig brif gymeriad o ferch ymhlith yr englynion cynnar hyn, sy’n galaru am golli teulu a cholli’i gwlad i’r Saeson. Mae'r gyfrol hefyd yn edrych ar leoliadau daearyddol sy’n gysylltiedig â’r cerddi yn yr Hen Bowys, ac yn nalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, ac yn sôn am ddylanwad y cerddi ar ein diwylliant – ac yn benodol eu dylanwad ar feirdd megis Gerallt Lloyd Owen, ac artistiaid megis y canwr - Tecwyn Ifan.<br /> Cynhwysir yn y gyfrol destun gwreiddiol chwe cherdd y diweddarwyd eu horgraff a chyflwynir yn ogystal ddiweddariad o'r cerddi hynny gan Gwyn Thomas.<br /> ‘Beth oedd y rheswm dros greu’r englynion yng nghymeriad pendefigion hanesyddol ddau can mlynedd ar ôl eu cyfnod? Beth oedd yn digwydd yng Nghymru tua 850 oedd yn galw am ddod â stori teuluoedd cyfnod colledus 600-650 yn ôl i gof gwlad? Ac yna pam fod y cymeriadau hyn a’r englynion amdanynt wedi dychwelyd i fod â rhan amlwg yn niwylliant ein gwlad dros fil o flynyddoedd ar ôl iddynt gael eu cyfansoddi? … Mae cyfeiriadau at Lywarch a Heledd, Neuadd Cynddylan a’r Dref Wen yn britho llawer o gywyddau, englynion a chaneuon eraill yn ystod chwarter olaf yr 20fed ganrif. Beth oedd arwyddocâd eu creu yn y lle cyntaf a beth sydd mor berthnasol i ni heddiw mewn cymeriadau a delweddau o farddoniaeth mor hynafol?’ (Rhagymadrodd, Myrddin ap Dafydd)

- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,

A new insight into the background and influence of the early Welsh saga poetry, its roots in the Old Powys, and its importance to the Welsh nation. Golwg newydd ar gefndir a dylanwad y canu englynol cynnar sydd wedi'i wreiddio yn yr Hen Bowys, a phwysigrwydd y canu hwn i genedl y Cymry.
Les mer
A new insight into the background and influence of the early Welsh saga poetry, its roots in the Old Powys, and its importance to the Welsh nation. Golwg newydd ar gefndir a dylanwad y canu englynol cynnar sydd wedi'i wreiddio yn yr Hen Bowys, a phwysigrwydd y canu hwn i genedl y Cymry.
Les mer
Rhagymadrodd Heno, yn Neuadd Pantycelyn Gwerth halen Teyrnasoedd y Brythoniaid dan warchae Barddoniaeth a chyfarwyddyd Llywarch Hen a Gwên Cân Heledd Colli’r bobl, colli bro Yr hen wraig grwydrol Englynion o’r hen ganiad Wrth feddwl am fy Nghymru Y ‘Marauding Welsh’ a Morlas
Les mer
Yn y gyfrol ddifyr hon mae’r awdur yn cyflwyno englynion Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen o'r 9fed ganrif i gynulleidfa newydd. Ceir trafodaeth ar gefndir hanesyddol a chyd-destun y cerddi o fewn y traddodiad barddol ac ar elfennau thematig yr englynion, sydd gyda'r canu cynnar mwyaf apelgar i gynulleidfa fodern: Canu Llywarch Hen - yr hen ryfelwr sy’n galaru am farwolaeth ei feibion ar faes y gad, ac sy’n myfyrio ar ei unigrwydd yn ei henaint, a Chanu Heledd, hithau, yr unig brif gymeriad o ferch ymhlith yr englynion cynnar hyn, sy’n galaru am golli teulu a cholli’i gwlad i’r Saeson. Mae'r gyfrol hefyd yn edrych ar leoliadau daearyddol sy’n gysylltiedig â’r cerddi yn yr Hen Bowys, ac yn nalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, ac yn sôn am ddylanwad y cerddi ar ein diwylliant – ac yn benodol eu dylanwad ar feirdd megis Gerallt Lloyd Owen, ac artistiaid megis y canwr - Tecwyn Ifan. Cynhwysir yn y gyfrol destun gwreiddiol chwe cherdd y diweddarwyd eu horgraff a chyflwynir yn ogystal ddiweddariad o'r cerddi hynny gan Gwyn Thomas. ‘Beth oedd y rheswm dros greu’r englynion yng nghymeriad pendefigion hanesyddol ddau can mlynedd ar ôl eu cyfnod? Beth oedd yn digwydd yng Nghymru tua 850 oedd yn galw am ddod â stori teuluoedd cyfnod colledus 600-650 yn ôl i gof gwlad? Ac yna pam fod y cymeriadau hyn a’r englynion amdanynt wedi dychwelyd i fod â rhan amlwg yn niwylliant ein gwlad dros fil o flynyddoedd ar ôl iddynt gael eu cyfansoddi? … Mae cyfeiriadau at Lywarch a Heledd, Neuadd Cynddylan a’r Dref Wen yn britho llawer o gywyddau, englynion a chaneuon eraill yn ystod chwarter olaf yr 20fed ganrif. Beth oedd arwyddocâd eu creu yn y lle cyntaf a beth sydd mor berthnasol i ni heddiw mewn cymeriadau a delweddau o farddoniaeth mor hynafol?’ (Rhagymadrodd, Myrddin ap Dafydd)
Les mer
Mae’r Prifardd a’r golygydd Myrddin ap Dafydd yn awdur toreithiog i blant ac oedolion ac yn storïwr heb ei ail. Dyma’r gyfrol gyntaf iddo ei chyhoeddi gyda Chyhoeddiadau Barddas.

Produktdetaljer

ISBN
9781906396848
Publisert
2015-07-20
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
140 mm
Bredde
170 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
200

Forfatter