Dyma gasgliad cynhwysfawr o ysgrifau ar rai o feirdd pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif. A chymaint o’r drafodaeth ddeallus ar farddoniaeth ddiweddar ar wasgar mewn llu o lyfrau a chyfnodolion, braf yw cael y fath gyfoeth o ddeunydd rhwng cloriau un gyfrol. Cyhoeddwyd cyfrol gyntaf <i>Y Patrwm Amryliw</i> ddeng mlynedd yn ôl dan ofal yr un golygydd, Robert Rhys. Trafodwyd yn honno waith 23 o feirdd a ganai’n bennaf yn hanner cyntaf y ganrif, o Eifion Wyn hyd John Roderick Rees. Rhoddir sylw yn y gyfrol newydd hon i 21 o feirdd, o Euros Bowen hyd Twm Morys, dau o feirdd y gynghanedd ond dau fardd y mae’r gwahaniaeth rhyngddynt yn tystio i amlochredd ein barddoniaeth dros yr hanner canrif diwethaf.

Y gwahaniaeth amlycaf rhwng y gyfrol hon a’i rhagflaenydd yw fod yma sylw i bedwar bardd benywaidd, sef Nesta Wyn Jones, Einir Jones, Menna Elfyn a Gwyneth Lewis. Amrywiaeth y deunydd yw ei ogoniant. Amrywiol hefyd yw’r cyfranwyr, gydag enwau adnabyddus fel Alan Llwyd, Delyth George, Dafydd Johnston, a’r golygydd ei hun, ochr yn ochr â chynrychiolwyr to newydd o feirniaid, sy’n cynnwys Llion Elis Jones, Angharad Price a Nia Heledd Williams. Mae’r ymdriniaethau’n gryno heb fod yn arwynebol, yn dreiddgar heb fod yn astrus. Dadlennol hefyd yw ôl-ymadrodd y golygydd sy’n bwrw golwg ddifyr ar ddylanwad blodeugerddi’r ugeinfed ganrif ar drywyddau beirniadaeth lenyddol ddiweddar ac ar gefndir y beirdd a’r cyfranwyr. Mae yma faeth i’r arbenigwr ac i’r lleygwr diwylliedig fel ei gilydd, ac a chynifer o’r beirdd ar feysydd llafur ein hysgolion a’n colegau bydd cryn groeso i’r gyfrol hon, a chryn werthiant, gobeithio.

- Huw Meirion Edwards @ www.gwales.com,

A volume of critical essays surveying the work of the Welsh poets of the latter half of the twentieth century, and the beginning of the twenty-first century.
A volume of critical essays surveying the work of the Welsh poets of the latter half of the twentieth century, and the beginning of the twenty-first century.

Produktdetaljer

ISBN
9781900437684
Publisert
2006-11-30
Utgiver
Cyhoeddiadau Barddas; Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
1 mm
Bredde
1 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
307

Redaktør