Yn 1970 cyhoeddwyd y gyfrol arloesol Yr Aelwyd Hon gan olygyddiaeth Gwyn Thomas, oedd yn cynnwys diweddariadau o hen farddoniaeth Gymraeg gan Bedwyr Lewis Jones, Derec Llwyd Morgan a Gwyn Thomas ei hun, cyfrol sydd wedi bod wrth benelin sawl un wrth astudio’r Gymraeg yn mewn ysgol a phrifysgol. Dros ddeugain mlynedd yn ddiweddarach penderfynodd yr ysgolhaig droi yn ôl unwaith eto at ein barddoniaeth Gymraeg gynnar, y tro hwn gan ganolbwyntio ar y canu englynol cynnar:
“Mi ddechreuais feddwl, unwaith eto, ei bod hi’n bechod ei bod hi’n haws i ddarllenwr Cymraeg gael gafael ar fersiynau dealladwy o’r hen ganu hwn yn Saesneg nag yn Gymraeg. Ac am yr ail waith mi benderfynais geisio cyflwyno cyfran o’n hen ganu ni fel cenedl yn Gymraeg,” meddai yn y Rhagarweiniad i’r gyfrol.<br />
Mae’r hen englynion sydd wedi eu diweddaru yn y gyfrol hon, dros deugain cyfres o englynion i gyd, i’w cael mewn dwy brif lawysgrif, sef Llyfr Du Caerfyrddin (tua 1250) a Llyfr Coch Hergest (rhwng 1382 a thua 1405), ac yn cynnwys canu crefyddol, canu natur a gwireb ac englynion sydd â chysylltiad â chwedlau, ac yn benodol y tri phrif gylch o englynion chwedlau: Canu Llywarch Hen, Canu Urien a Chanu Heledd. Ystyrir y canu englynol hwn ymysg y cerddi canoloesol mwyaf apelgar i gynulleidfa fodern o safbwynt yr arddull uniongyrchol a hefyd eu cynnwys. Pwysleisia Gwyn Thomas mai’r un peth yn anad dim arall y ceisiodd ei wneud gyda’r diweddariadau newydd yma oedd sicrhau fod yna rythm yn y linellau.
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,
Ar hyd ei yrfa, fe geisiodd yr Athro Gwyn Thomas ddehongli a symleiddio’r testunau llenyddol y bu’n ymdrin â hwy ar gyfer y darllenydd ‘cyffredin’ na chafodd y fraint o ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg – rhoi testunau’r gorffennol pell yn iaith heddiw a datgloi’r dirgelwch. Dyna oedd bwriad y gyfrol <i>Yr Aelwyd Hon</i> ddeugain a phump o flynyddoedd yn ôl, pan gyflwynodd ddiweddariadau o’r canu arwrol ac o beth o'r canu englynol yn 1970. Nawr fe gyhoeddir ei ddehongliad o’r canu englynol cynnar sy’n cwblhau canu’r cyfnod. Yr oedd yr englynion hyn ar gael yn Saesneg eisoes a bellach maent ar gael yn hwylus a hylaw yn Gymraeg.
Dosberthir y canu hwn i nifer o ddosbarthiadau: Canu Crefyddol, Canu Natur a Gwirebau, Englynion a fu’n rhan o chwedlau, Canu Llywarch Hen, Canu Urien, Canu Heledd, ac Englynion Cadwallon. Yn y rhagymadrodd i’r cerddi trafodir y dehongli a fu arnynt o ddyddiau William Owen [Pughe] hyd at argraffiad safonol Syr Ifor Williams a chyfraniadau nifer o ysgolheigion cyfoes. Trafodir y fydryddiaeth, sef y gwahanol fathau o englynion a’u nodweddion mydryddol, ynghyd ag ambell bwynt o ramadeg sy’n effeithio ar y canu. Daw’r rhagymadrodd i ben gyda thrafodaeth ar awduraeth yr englynion a phwt byr ar oed y canu.
Mae’r hen ffefrynnau yma i gyd: ‘Cân yr Henwr’, ‘Baglan Bren’, ‘Eiry Mynydd’, ‘Claf Abercuawg’, ‘Stafell Gynddylan’, ‘Eryr Pengwern’, ‘Y Dref Wen’, ond yn ogystal â’r rhain cynhwyswyd englynion eraill o’r cyfnod cynnar sy’n ymddangos yma ac acw yn y llawysgrifau, gan gynnwys Englynion y Juvencus; Englynion y Beddau; cyfresi a fu ar un adeg ynghlwm wrth chwedlau fel Chwedl Taliesin a hanes boddi teyrnas Gwyddno Garanhir, sef Cantre’r Gwaelod; englynion sy’n gysylltiedig â Chwedl Geraint fab Erbin o’r Mabinogion; ‘Englynion Cadwallon’; ynghyd â’r gerdd hyfryd ‘Cyntefin Ceinaf Amser’.
Does dim posib peidio â sôn am un englyn o blith englynion Canu Llywarch Hen, sef yr englyn ‘I’r Ddeilen Hon’, sy’n cynnwys un o’r llinellau mwyaf cofiadwy yn holl lenyddiaeth Cymru, llinell sy’n crynhoi byrder a breuder bywyd mor gryno ag sy’n bosib: ‘Hi hen – eleni ganed’, neu a dyfynnu’r diweddariad: ‘Mae hi’n hen – eleni y’i ganed’ (t. 126).
Mae dod â’r holl englynion hyn ynghyd o fewn yr un clawr yn gymwynas fawr, ond mae’r diweddariadau lawn mor werthfawr drwy gyflwyno fersiwn diweddar sy’n seiliedig ar ddysg nifer o ysgolheigion amlycaf ein cyfnod. Diolch, felly, i’r golygydd a’r diweddarwr am ei sensitifrwydd ac am drylwyredd ei lafur. Mae clawr y gyfrol, o waith deheuig Olwen Fowler, sy’n seiliedig ar rannau o Lyfr Coch Hergest, yn syber ac addas iawn i’r testun.
Gallaf innau gofio’n ôl, union bum mlynedd a deugain, i dryblith darlithiau Mr Brinley Rees am naw ar fore Gwener yn y Coleg ar y Bryn, pan gawsom, yn ddosbarth o israddedigion, ein cyflwyno gyntaf i dristwch llawer o’r canu hwn sy’n sôn am golled, ac sy’n gipdrem hiraethus yn ôl ar yr hyn a fu.
- Dafydd Ifans @ www.gwales.com,