Y mae'r Athro Gwyn Thomas yn un o ffigyrau llenyddol pwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain yng Ngymru. Fe'i hadwaenir fel bardd dylanwadol a chynhyrchiol (ef yw Bardd Cenedlaethol cyfredol Cymru), ac fel ysgolhaig cynhwysol a democrateiddiol ei weledigaeth. Cyflwynir y gyfrol deyrnged hon iddo i gydnabod a dathlu ei gyfraniad amlweddog i'r diwylliant Cymraeg (a Chymreig) dros gyfnod o hanner canrif a mwy.
Y mae'r gyfrol yn cynnwys 14 o ysgrifau newydd gan rai o'n hysgolheigion a'n beirniaid llenyddol mwyaf blaenllaw. Ceir yma astudiaethau ar bynciau sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil eang y gwrthrych ac sy'n cynnig darlleniadau ffres a dadlennol o'r testunau
llenyddol dan sylw. Gyda'i gilydd, ffurfia'r ymdriniaethau hyn fath amgen ar 'hanes llên Gymraeg' wrth ein tywys o'r Hengerdd, y Pedair Cainc, y Gogynfeirdd a Dafydd ap Gwilym at lenyddiaeth yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed, ac ymlaen i'r Byd Fictoraidd a'r ugeinfed ganrif. Cynhwysir yma hefyd ysgrifau sy'n archwilio'r amryfal weddau ar gyfraniad Gwyn Thomas ei hun, a'u rhyngberthynas: ei farddoniaeth, ei waith ar gyfer y theatr a'r cyfryngau, ei ysgolheictod, ei gyfieithiadau a'i feirniadaeth lenyddol. Teifl y gyfrol oleuni newydd ar rai o gyfnodau a ffigyrau mwyaf allweddol llenyddiaeth Gymraeg dros y canrifoedd – ac ar le pwysig Gwyn Thomas ei hun yn yr olyniaeth honno.
At hyn, ceir yn y gyfrol ysgrif deyrnged i Gwyn Thomas a lyfryddiaeth gyflawn o'i weithiau, ac y mae'n gymwys fod yma yn ogystal gyfraniadau gan dri o feirdd amlycaf y Gymru fodern.
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,
Ni all adolygiad ychydig gannoedd o eiriau grybwyll popeth sydd yn y gyfrol hon, heb sôn am ei thafoli. Ceir yn y tair cerdd a’r pedwar ar ddeg o gyfraniadau, ac yn y llyfryddiaeth gymen gan Huw Walters ar ei diwedd, ffrwyth degawd, bron, o gomisiynu a chynllunio. Gellir bellach werthfawrogi peth, o leiaf, o ‘weledigaeth ddiwylliannol amlweddog a chynhwysfawr Gwyn Thomas’, chwedl y golygydd.
Y nod deuol a osododd Jason Walford Davies iddo’i hun oedd casglu ysgrifau am ei wrthrych a fyddai’n fodd, ys dywed, i ddangos ‘[y] berthynas symbiotig sy’n bodoli rhwng yr amrywiol weddau hynny ar ei gyfraniad diwylliannol’ ac eraill am y meysydd (hanesyddol-lenyddol gan mwyaf) lle mae Gwyn Thomas yn weithgar sy’n amlygu ynddynt eu hunain ‘y rhwydwaith o gysylltiadau pynciol, thematig ac adleisiol awgrymus rhwng ysgrifau’r gyfrol ar ei hyd’.
Mae rhywun yn amau nad ar ddamwain y defnyddir yr un arddodiad yn y ddau nod isod. Llenor ac ysgolhaig y ‘rhwng’ yw Gwyn Thomas, ac mae’n air sy’n brigo i’r wyneb o hyd yma. Felly y ceir Gruffydd Aled Williams yn agor ei ymdriniaeth â ‘Gwyn Thomas: Ei Ysgolheictod’ trwy ddal ‘na cheir “ceulan ddiadlam” rhwng ... ymgnawdoliadau niferus’ Gwyn Thomas fel bardd, beirniad, sgriptiwr, cyfieithydd ac ati, cyn mynd rhagddo i sôn amdano’n ‘[p]ontio’n ddiwylliannol rhwng yr hen a’r cyfoes (ac yn aml hefyd rhwng y dwys a’r ysgafala)’. Dyna R. M. Jones wedyn yn tynnu ein sylw at ‘y tyndra hwn rhwng y gogwydd academaidd a’r gogwydd gwerinol mwy archolladwy, yr aruchel a’r arisel’ yn ieithwedd Gwyn Thomas, a Gerwyn Williams yn ‘Yr Ianci o’r Blaenau’ yn nodi ei ‘ymdrechion ... i groesi’r cefnfor diwylliannol rhwng Cymru ac America’.
Yr un awydd i groesi ffiniau a phontio cyfnodau sy’n nodweddu cyfraniadau eraill: ‘rhagarweiniad’ Dafydd Glyn Jones i’r amryfal ganu a ysbrydolwyd gan y Mabinogi; ymdriniaeth Marged Haycock â gwaddol Canu Heledd; ysgrif nodedig Dafydd Johnston ar Gwyn Thomas fel cyfieithydd Dafydd ap Gwilym, sy’n priodoli llwyddiant Gwyn Thomas i’w allu i ‘ymuniaethu â’r gwrthrych’ ar draws y canrifoedd.
Rhaid terfynu heb enwi prin hanner yr hyn sydd yn y llyfr. Teg ychwanegu, er hynny, ei fod drwyddo draw yn deyrnged deilwng i’w wrthrych ac yn arwydd bod etifeddiaeth Gwyn Thomas fel ysgolhaig mewn dwylo diogel.
- T. Robin Chapman @ www.gwales.com,