Mae astudiaethau niferus wedi archwilio delweddaeth beirdd drwy ac mewn iaith, hynny yw, y modd y defnyddiant iaith i greu delweddau, ond nid felly’r ddelweddaeth am iaith ei hunan. Nod y llyfr hwn yw craffu ar sut y mae casgliad o feirdd o bob cwr o’r byd wedi dychmygu a delweddu iaith, a hynny er mwyn ceisio goleuni newydd ar y cwestiwn hynafol: ‘Beth yw iaith?’ Gan mai yng nghyd-destun dathlu canmlwyddiant Gwasg Prifysgol Cymru yr ysgogwyd y llyfr, dewiswyd y testun gan ei fod yn gydnaws â dau o brif themâu cyhoeddiadau’r Wasg. Ar y naill law, mae'n dyfnhau ein dealltwriaeth o ddiwylliant ac iaith unigryw Cymru, ac ar y llall ehangu ein gwerthfawrogiad o ddiwylliant Ewrop a’r byd. Mewn cyfuniad unigryw sy’n cwmpasu esiamplau o gerddi mewn ieithoedd dan fygythiad a rhai prif ffrwd, dyma lyfr sy’n ein hannog i ystyried o’r newydd gyfrwng yr ydym yn ei ddefnyddio’n feunyddiol.
Les mer
Rhagair Cydnabyddiaethau Rhestr o ddarluniau Byrfoddau Cyflwyniad 1 Preswylfa ein Bod 2 Merch perygl 3 Cwrwgl 4 Cleddyf 5 Dillad benthyg 6 Gwaed fy ysbryd 7 Dyfnder, dyfnfor 8 Ein mam, ein tad 9 Dychwelyd o faes y gad 10 Proffwydoliaeth 11 Tiwnio llais yr iaith 12 Clo Atodiad Cerddi Mynegai
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781786839190
Publisert
2022-07-15
Utgiver
Vendor
University of Wales Press
Høyde
216 mm
Bredde
138 mm
Aldersnivå
P, 06
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Innbundet

Forfatter