A comprehensive collection of the poems of crowned and chaired bard Hywel Griffiths, comprising poems about Wales, its land and climate, its communities, history and myths. Dyma gasgliad cynhwysfawr o gerddi'r prifardd Hywel Griffiths, yn cynnwys cerddi sy'n ymwneud â thir a daear Cymru, ei hinsawdd, ei chymunedau, ei hanes a'i chwedlau.
Les mer
A comprehensive collection of the poems of crowned and chaired bard Hywel Griffiths, comprising poems about Wales, its land and climate, its communities, history and myths. Dyma gasgliad cynhwysfawr o gerddi'r prifardd Hywel Griffiths, yn cynnwys cerddi sy'n ymwneud â thir a daear Cymru, ei hinsawdd, ei chymunedau, ei hanes a'i chwedlau.
Les mer
Llif Coch Awst
Fern Hill
Lli ac Archan
Mapio
Cwm Elan
Llifogydd
Tyrfa
Y daith i Orsedd y Cwmwl
Gwylio Adar
Argae
Dymuniad ...
Annibendod
Dyfodol
Y bluen eira
Taflu Cerrig
Addurno’r Goeden
Atgof
I Dylan
Efyrnwy a Banwy
1914
Gair
Gweithdy
Dur
Dic
Gerallt
Gwynfor
Ynys
Ffydd a phaent
Clawdd terfyn
Y gadair ddu
Egin
Y ferch sy’n byw ’da Padraig Pearse
Gwanwyn yn Llangynog
‘Cofiwch Dryweryn’
Sêr
Google Mars
Dawns
Wrth Sgwennu
Dinasoedd
Y lloerig
Laitumkhrah
Cyngor Teithio
Y Gân Ogleddol
Sut mae mynd i deml Tao
Sgwâr St. Marko
Ynghylch y tywydd drwg
Mehefin 2016
Lens
Disgwyl am y wawr
Bore
I fis Mehefin 2016
Trioedd Pwll y Tŵr
I Dafydd Jones
Hel arian papur
Teilwyr
Y map dwfn
Croesi dros Gei Newydd
Ebenezer
I Osian
Diymadferth
Gwalia Deserta 2012
I Gareth ac Elin
I Eurig a Rhiannon
I Eurig yn 30
I Aran a Heledd
Medi yn Aber
Gwe
Les mer
Fel daearegydd, bydd Hywel Griffiths yn ymwybodol iawn o rymoedd byd natur. Mae’n arbenigwr ar y rhewlifoedd hynny a luniodd ein tirwedd gan adael plethwaith o gymoedd dyfnion a dyffrynnoedd eang ar eu hôl. Nid oes ryfedd, felly, mai nentydd ac afonydd yr hafnau hyn sydd yn dyfrhau a ffrwythloni ei awen yntau hefyd. Y gwaddod a’r gro mân a gariwyd gan eu llif hyd lawr y dyffryn dros y canrifoedd sy’n lliwio’r cerddi.
Fe’i magwyd ar fferm i’r gorllewin o Gaerfyrddin rhwng aberoedd Tywi a Thaf ac mae atgofion melys am gynaeafau bore oes yn cyfoethogi’r gyfrol; dyma’i Fern Hill yntau. Yna symudodd ymlaen am lannau Ystwyth gan ennill gradd ddigon da i gael swydd darlithydd yn y Coleg ger y Lli. Yno, wrth edrych allan tua Chantre’r Gwaelod, gresynai fod cymaint o’n cyfoeth diwylliannol o dan y môr a’i donnau. O gofio hyn, mae’n anochel i’w flynyddoedd fel myfyriwr gydredeg â chyfnod o weithredu brwd dros Gymdeithas yr Iaith ac mae’r achos yn dal yn agos at ei galon, fel y dengys ei gerdd i Osian, un o’i hymgyrchwyr diweddaraf.
Symudodd ymlaen wedyn i Gwm Eleri gyda’i wraig, Alaw, ac yno yn Nhal-y-bont yr ysgrifennwyd y mwyafrif o gerddi’r gyfrol hon. Yno y ganwyd y plentyn cyntaf, Lleucu Haf, a hynny ychydig ddyddiau cyn i’r llifogydd difrifol daro’r pentref. Dilynwyd hi gan fab, Morgan Hedd, ac mae i’r tri ohonynt le amlwg o fewn y tudalennau.
Weithiau, er hynny, bydd dyn yn mynnu ymyrryd â llif yr afonydd hyn drwy gronni’r dyfroedd heb ystyried bywyd y dyffryn yn ei gyfanrwydd, yn amgylcheddol nac yn gymdeithasol. Mae’r naturiaethwr a’r Cymro ynddo yn dal i gofio Tryweryn – a Chwm Elan ac Efyrnwy hefyd.
Ac yntau bellach wedi dychwelyd gyda’i deulu at lannau Rheidiol yn Llanbadarn Fawr, cawsom atlas o gyfrol ganddo sy’n mapio’i ddatblygiad fel bardd ac fel person. Pleser pur fu cael dilyn afonydd Cymru yn ei gwmni.
Les mer
O Sir Gaerfyrddin y daw Hywel Griffiths yn wreiddiol ond mae'n byw yng Ngheredigion ers sawl blwyddyn bellach. Mae’n ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Dîm y Glêr a Thîm y Deheubarth. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn 2015, a chyn hynny, enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008. Cyhoeddodd flodeugerdd o ganu gwleidyddol, Byw Brwydr gyda Chyhoeddiadau Barddas yn 2014 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Banerog, gyda'r Lolfa yn 2009. Y mae hefyd wedi ysgrifennu nofel i bobl ifanc.
Les mer
Produktdetaljer
ISBN
9781911584056
Publisert
2018-05-30
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
120
Forfatter