'Cawn yma flas ar fwrlwm ac egni diwylliant Cymraeg yr Unol Daleithiau yng nghyfnod yr ymfudo mawr ynghyd a darlun byw o lafur William Rowlands ac eraill a wasanaethodd gymunedau helaeth o Gymry America, eu gobeithion a'u rhwystredigaethau. Dyma ychwanegiad gwerthfawr at gorff cynyddol o waith sy'n esbonio pwysigrwydd ac arwyddocad America i'r profiad Cymreig.' - Yr Athro D. Densil Morgan, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant; 'Yn archwiliad rhyngddisgyblaethol cyfoethog, treiddgar a dadlennol ar wasg gyfnodol Gymraeg America yn negawdau canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg bydd y gyfrol bwysig hon yn ddarllen hanfodol i unrhyw un sydd a diddordeb yn llenyddiaeth, crefydd, iaith a phrofiadau rhyngwladol y Cymry.' - Athro Bill Jones, Prifysgol Caerdydd