Yn rhinwedd fy swydd gydag Uned Wleidyddol BBC Cymru, rwy’n gyfarwydd iawn ag adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd. Ond fel arfer rwy’n rhy brysur yn rhuthro o un lle i’r llall i sylwi’n fanwl arno. Mae’r gyfrol swmpus hon yn gronicl llawn o harddwch yr adeilad, ac yn sicr, mae hi’n fwy na chyfrol bwrdd coffi sy’n llawn o luniau a delweddau.

Cawn flas ar hanes gwleidyddol Cymru, hanes Bae Caerdydd a’r brifddinas, a gwybodaeth bensaernïol am gynllun yr adeilad a’r nodweddion crefftus sydd o’i amgylch. Mae yma hefyd gyfweliadau gyda’r penseiri, sef yr Arglwydd Richard Rogers ac Ivan Harbour, sy’n rhoi hanes yr ysbrydoliaeth y tu ôl i gysyniad y cynllun. Ac mae’r cyfweliad gyda Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, yn rhoi syniad da i ni sut mae’r adeilad yn gweithio o ddydd i ddydd, ynghyd â’i arwyddocâd i’r genedl.

Un o gryfderau amlwg y gyfrol yw ffotograffau Andrew Molyneux, yn dogfennu’r adeilad wrth iddo gael ei godi, yn dangos safle’r Senedd ac yn manylu hefyd ar y nodweddion pensaernïol clyfar a deniadol sy’n gwneud yr adeilad yn un mor eiconig. Cawn hefyd gip tu ôl i’r llenni, gweld rhannau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd, megis stafell y boileri, swyddfa’r Llywydd, a’r systemau cyfrifiadurol sydd gan yr Aelodau yn y Siambr. Cawn hefyd esboniad o’r dull pleidleisio electronig a’r system negeseuo.

Mae’r adeilad yn un dramatig, gyda golygfa wych dros y bae i gyfeiriad Penarth. Ei ganolbwynt yw’r twndis mawr uwchben y Siambr, ac esbonnir sut y cafodd coed cedrwydd o Ganada eu crymu o amgylch y twndis ac ar hyd y to. Mae’n amhosib peidio â chael gwefr o weld sut mae’r pren a’r llechi o chwarel Cwt-y-bugail, Blaenau Ffestiniog, wedi cael eu defnyddio i greu naws fodern ac awdurdodol. Mae’r defnydd celfydd o’r gwydr hefyd yn galluogi ymwelwyr i weld i mewn i’r Siambr a chael cip ar yr holl drafod islaw, gan greu’r teimlad agored oedd wrth galon gweledigaeth y penseiri.

I unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth, hanes a phensaernïaeth, mae’r gyfrol hon yn un hynod ddiddorol. Mae’r dyluniad glân a slic yn pwysleisio techneg y ffotograffydd wrth ddangos harddwch y strwythur a’r deunyddiau sy’n rhan o’r adeilad. Cawn hefyd flas ar hanes y safle, gan roi’r Senedd yn ei chyd-destun hanesyddol ar safle’r dociau ond sydd bellach yn bwerdy i ddemocratiaeth Cymru.

- Gwyddno Dafydd @ www.gwales.com,

Now available in this new compact edition, Senedd documents the rise of Cardiff as a city and place of government through to the concepts, challenges and final achievements of the Senedd building itself, superbly photographed by Andrew Molyneux. English text. Welsh edition also available: 9781802584165
Les mer
Now available in this new compact edition, Senedd documents the rise of Cardiff as a city and place of government through to the concepts, challenges and final acheivements of the Senedd building itself, superbly photographed by Andrew Molyneux.
Les mer
Trevor Fishlock is a writer and broadcaster who was staff correspondent of The Times in India, and New York and Moscow bureau chief for The Daily Telegraph. He has worked on assignment in more than sixty countries and has published widely.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781913134853
Publisert
2023-04-06
Utgiver
Graffeg Limited; Bird Eye Books
Høyde
150 mm
Bredde
150 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Engelsk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
160

Forfatter
Bilder av