A hithau’n gan mlynedd ers i Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn, ennill cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, does dim rhyfedd fod yna alw mawr am ddeunydd darllen amdano eleni. Ac mae’r gyfrol <i>I Wyneb y Ddrycin</i> yn gyfraniad pwysig at ein hawch i wybod mwy am y dyn arbennig hwn ac i ddod i’w adnabod yn well. Ond nid bywgraffiad yn unig a geir yma o bell ffordd, oherwydd yn ogystal â chyflwyno ffeithiau difyr am Hedd Wyn ei hun, ceir cyflwyniad diddorol hefyd i’r cyfnod enbydus yma a’r dylanwadau a fu arno fel person ac fel bardd. Mae’n gyfrol hardd a deniadol iawn, ac yn un sy’n dangos ôl ymchwil fanwl i hanes teulu, cydnabod a bro Hedd Wyn. A dewiswyd awdur perffaith ar gyfer y gwaith. Mae Haf Llewelyn eisoes yn nofelydd poblogaidd ac enillodd ei chyfrol <i>Diffodd y Sêr</i>, nofel yn cyflwyno hanes Hedd Wyn i blant yn eu harddegau, wobr Tir na n-Og yn 2014. Mae’r penodau’n rhai byrion sy’n ddigon hawdd eu darllen ar un gwynt, bron. Mae’r ysgrifennu’n goeth ac apelgar, a'r hanes wedi ei gyflwyno mewn ffordd gryno a darllenadwy. Teimlais fy mod wedi dysgu llawer am Hedd Wyn a’i gyfnod o’r cychwyn cyntaf. Er enghraifft, roedd yn un o un ar ddeg o blant, a dau blentyn arall yn farw-anedig, a byddai’n ysgrifennu darnau byr o farddoniaeth ar bapurau blêr a’u stwffio i wahanol fannau o gwmpas yr ardal mewn cloddiau a waliau'r fro. Er na chafodd fawr o addysg ffurfiol, roedd yn ddarllenwr brwd ac fe gafodd ei annog gan ei rieni i ddilyn ei ddiddordebau llenyddol, a hynny’n aml ar draul gwneud gorchwylion ar y fferm! Mae’n debyg na fyddai’n anarferol iddo ysgrifennu drwy’r nos a mynd i’r gwely wrth i weddill y teulu godi. Er y cyfeirir ato’n aml fel bugail, mae’n bur debyg taw amaethwr anfoddog oedd e. Roedd yn feirniad llym o’i waith ei hun a byddai’n astudio beirdd fel T. Gwynn Jones a’i arwr R. Williams Parry, yn ogystal â beirdd Saesneg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er mwyn mireinio ei grefft ei hun. Mae’r cyferbyniad rhwng y bywyd tawel, digynnwrf oedd yn bodoli yng nghefn gwlad Cymru a digwyddiadau erchyll y rhyfel yn cael eu cyfleu’n effeithiol iawn. Dyma gymdeithas gapelgar, ddiwylliedig oedd yn gweld y newid yn digwydd o flaen eu llygaid, gan fod gwersyll milwrol gerllaw, ym Mronaber. Mae yna dipyn o eironi i’r hanes fod Capel Pen-stryd wedi ei ddifrodi gan y gynnau o Fronaber. Ac er bod Hedd Wyn wedi ffieiddio at y weithred, doedd hi ddim yn hir iawn wedyn cyn iddo ef ymrestru. Ond doedd fawr o ddewis ganddo erbyn hynny mewn gwirionedd; roedd gweithgarwch milwrol o bob math o’i gwmpas, gydag ymweliadau rheolaidd gan bobl ddylanwadol yn areithio’n danbaid o blaid y rhyfel, ac adroddiadau cyson yn y wasg yn arwain at sgyrsiau dyddiol ymysg trigolion yr ardal. Ac mae cyfnod byr Hedd Wyn yn y fyddin, ei farwolaeth erchyll a’r cadeirio hynod ddramatig ym Mhenbedw yn cael eu cyflwyno’n ddifyr, er gwaethaf y tristwch mawr oedd ymhlyg yn yr hanes. Yn ystod y darllen down i ddeall pa mor adnabyddus a phoblogaidd oedd Hedd Wyn yn ardaloedd Trawsfynydd a Blaenau Ffestiniog cyn ei farwolaeth. Daw’n amlwg fod gan bobl y broydd hynny feddwl mawr ohono a'u bod yn dechrau gwerthfawrogi ei ddoniau fel bardd cyn i ni ddechrau dadansoddi ei waith. Yn wir, roedd erthyglau mewn cylchgronau’n cyfeirio ato fel 'ein Hedd Wyn'. Mae’r gyfrol yn hynod ddeniadol gyda phytiau o bapurau newydd a chylchgronau, llythyron, ffotograffau, atgofion, posteri, cardiau post, cyfweliadau a llawer o farddoniaeth yn rhoi diwyg ffres a modern i’r cyfanwaith, a’r cwbl wedi ei grynhoi’n effeithiol mewn un man hwylus. Mae fel pe bai pob darn o dystiolaeth yn cyfrannu’n llwyddiannus at greu darlun byw o’r dyn ac o’r cyfnod. Mae’n deyrnged deimladwy nid yn unig i Hedd Wyn ei hun ond i’w deulu a’i ffrindiau, ac yn fodd o gadw’r cof amdano'n fyw, yn enwedig o gofio bod yr Ysgwrn wedi ailagor i’r cyhoedd yn ddiweddar. Mwynhewch y darllen.
- Hefin Jones @ www.gwales.com,