Hyd yn gymharol ddiweddar, amheuwr oeddwn i parthed bodolaeth ysbrydion. Teimlwn fel y teimlai T. H. Parry-Williams am fodolaeth Tylwyth Teg. Medrwn haeru’n hyderus, ‘Dw i ddim yn credu mewn ysbrydion’.

Yna, a minnau ar wyliau ar un o ynysoedd bach Gwlad Groeg digwyddodd rhywbeth anesboniadwy. A bellach gallaf ychwanegu, ‘Ond maen nhw’n bod’.

Yn wahanol i Elwyn Edwards dydw i ddim yn ysbrydegydd nac yn gyfryngwr. Yn y gyfrol hynod o afaelgar hon cawn wybod am rai o’i niferus brofiadau ysbrydol. I’r rhelyw ohonom ni fyddai’r profiadau hyn yn gwneud unrhyw synnwy, ond o ddarllen tystiolaethau Elwyn mae gofyn i hyd yn oed y sinic mwyaf yn ein plith ailfeddwl.

Gallaf, er enghraifft, dderbyn yn ddigwestiwn fod gennym ni, pan yn fabanod, alluoedd sy’n araf bylu wrth i ni heneiddio. Ac un o’r greddfau naturiol hynny, medd Elwyn, yw’r arferiad sydd gan blentyn bach o greu ffrindiau sy’n anweledig i bawb ond i’r plentyn ei hun. Ond o heneiddio, prin yw’r rheiny sy’n parhau i fod yn berchen ar y gynneddf hon, meddai.

Mae’r gyfrol yn gyforiog o hanesion am ei wahanol brofiadau yn y byd ysbrydol, nifer ohonynt yng nghwmni eneidiau hoff cytûn. I mi, y mwyaf diddorol yw’r ysbrydion hynny y medrir rhoi iddynt enwau. Ac un profiad o’r fath sy’n sefyll allan yw cysylltiad Elwyn â Jane Williams. Hi sy’n ganolog i’r hen gân enwog honno, ‘Yr Eneth Gadd ei Gwrthod’. Ychwanegwch yr emynyddes Ann Griffiths a’r Cyrnol John Jones, Maesygarnedd, a ddienyddiwyd yn 1660.

Caiff lleoliadau arbennig sylw hefyd, o swyddfeydd Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon i lannau Llyn Celyn. Ychwanegwch brofiadau’n ymwneud â rhagfynegi a dyna i chi destament o achosion a allai fod yn destun cyfres deledu gyfareddol.

Mae’r ysbrydion a’r achosion sydd ynghlwm wrthynt yn rhychwantu’r canrifoedd. Cawn yr awdur yn ymweld â lleoliad Siambr Hywel Dda o’r 9fed ganrif ac yn dod wyneb yn wyneb ag ysbryd merch ifanc oedd yn wynebu’r crocbren. Yna, yn ein cyfnod ni cawn ddigwyddiad rhyfedd a brofodd Elwyn a’i briod wrth wylio telediad seremoni’r Coroni ym Mhrifwyl Caerdydd yn 2018.

Un rheswm diddorol a gynigir gan Elwyn dros ymddangosiad ysbryd yw awydd yr ymwelydd i’n hysbysu ei fod yno, a’i fod am ddweud pam. Rhyw brociad o’r byd ysbrydol gan enaid aflonydd. A dyma gofio dywediad gan gymeriad yn <i>The Satanic Verses</i> slawer dydd: ‘Now I know what a ghost is. Unfinished business, that’s what.’

Ydw, o Syr Tomos i Salman Rushdie, rwy’ mewn cwmni da.

- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com,

The recent experiences of the psychic Elwyn Edwards who has the gi ft of connecting with spiritual souls.
The recent experiences of the psychic Elwyn Edwards who has the gi ft of connecting with spiritual souls.
Mae Elwyn Edwards yn byw yn y Bala a hon yw ei ail gyfrol o ysgrifau sy'n adrodd ei hanes yn cysylltu gyda'r meirw.

Produktdetaljer

ISBN
9781911584520
Publisert
2021-10-22
Utgiver
Cyhoeddiadau Barddas; Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
210 mm
Bredde
138 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
152

Forfatter