A tight, multi-medium volume with many biographical themes such as family and bullying, reminiscences and childhood experiences; the author depicts the apathy and helplessness of people in the face of tragedy and also comments on some contemporary political matters. Cyfrol amlgyfrwng, dynn, ag iddi sawl thema hunangofiannol megis teulu a bwlio, atgofion a phrofiadau plentyndod; mae'r awdur hefyd yn darlunio difaterwch a diymadferthedd pobl yn wyneb trychineb ac yn ymateb i rai materion gwleidyddol cyfoes.
Les mer
A tight, multi-medium volume with many biographical themes such as family and bullying, reminiscences and childhood experiences; the author depicts the apathy and helplessness of people in the face of tragedy and also comments on some contemporary political matters. Cyfrol amlgyfrwng, dynn, ag iddi sawl thema hunangofiannol megis teulu a bwlio, atgofion a phrofiadau plentyndod; mae'r awdur hefyd yn darlunio difaterwch a diymadferthedd pobl yn wyneb trychineb ac yn ymateb i rai materion gwleidyddol cyfoes.
Les mer
Stafell fy Haul Icky Byrd Musée des Beaux Arts (cyfieithiad o waith W. H. Auden) Landscape with the Fall of Icarus (cyfieithiad o waith William Carlos Williams) Breuddwyd Cwlwm bwlio Heddwch, er cof am Gwenno Dwy ffenest Dianc i'r wlad Karka dy ddiwedd
Les mer
A minnau wedi cyrraedd oed yr addewid ac wedi cael stafell haul newydd o fewn y deng mis diwethaf, gallaf uniaethu ag awdur y gyfrol hon! Ond yn wahanol i’r rhan fwyaf ohonom, mae Manon Rhys wedi gwneud gyrfa o lenydda ac mae ôl troi myfyrdod yn eiriau caboledig yn amlwg ar dudalennau’r llyfr. A Manon yn fardd coronog, yn enillydd y Fedal Ryddiaith ac yn awdur nifer o gyfrolau rhyddiaith, bu cryn edrych ymlaen at ei chyfrol ddiweddaraf, sy’n gyfuniad o gerddi a darnau rhyddiaith. Mae’r gyfrol yn cwmpasu sawl thema, o bleserau ac ofnau’r presennol hollbresennol, ‘y nawr sy’n hen, hen ddigon’ wrth edrych o stafell ei haul, i atgofion melys a thrwblus am blentyndod ei ‘dwy ffenest’. Yn rhai o ddarnau cyntaf y gyfrol cyfeirir sawl gwaith at hanes Icarws ac at y ddelwedd drasig ohono yn narlun Breughel, gan fyfyrio ar ddifrawder dyn yn wyneb dioddefaint eraill, neu’n hytrach, efallai, ein diffyg ymwybyddiaeth o ing ac alaeth ein cyd-ddyn. Diffyg ymwybyddiaeth, diffyg empathi, sydd wrth wraidd bwlio hefyd, medden nhw, ac yn y nofel Ad Astra aeth Manon i’r afael â’r thema honno. Mae’n dychwelyd ati yn y gyfrol hon gan ddefnyddio amgylchiadau dyddiau coleg unwaith eto yn gefndir. Dyma thema gref sy’n sicr o gyffwrdd â’r darllenydd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Thema arall, o raid bron, yw heneiddio a’i ganlyniad anorfod. Un ffordd o gyflwyno’r thema yw cyfleu’r gwahaniaeth rhwng y cenedlaethau. Mae’r gyfrol yn cynnwys y casgliad rhagorol o gerddi a enillodd i Manon y Goron yn Eisteddfod Maldwyn, 2015. Yn y gerdd ‘weli-di-fi’ gwelir y gwahaniaeth rhwng golwg y fam-gu a’r wyres ar y byd – ‘wyt ti wedi gweld eira o’r blaen?’ Mae byd natur, yr ardd ac adar yn gyfrwng arall i gyfleu thema heneiddio a bygythiad marwolaeth. Er yr holl afiaith a ddarlunnir yn ‘stafell fy haul’, yr hyn sy’n aros gyda ni, efallai, wrth fyfyrio ar y gyfrol yw bygythiadau byd natur yr ydym yn rhan annatod ohono. Nid oes neb, er enghraifft, yn saff rhag y ‘clymchwyn’: ‘Gall fy mygwth innau/yn fy ngardd,/yn stafell hardd/fy haul,/rhwng pedair wal/fy nghartref.’ Yn y cerddi ‘dwy ffenest’ mae mwy o bwyslais ar geisio rhoi trefn ar wylltineb natur; cyfeirir at ‘(t)refn gwarchod tir ac adfer gardd’, ‘trefn balchder pridd o dan ewinedd’, trefn sy’n cysylltu’r awdur â chenedlaethau a aeth o’i blaen. Mae ‘dwy ffenest’ yn gerddi sylweddol sy’n deyrnged i dad yr awdur, y llenor a’r gwleidydd J. Kitchener Davies, ac yn gofnod atmosfferig drwy lygaid merch fach bedair oed o’i fisoedd olaf. Maent hefyd, fel y gellid disgwyl, yn rhoi cipolwg ar fywyd teulu ac ar fywyd cymdeithasol Cwm Rhondda’r pumdegau cynnar. Cewch bleser o ddarllen cynnwys amrywiol y gyfrol hon. Ac mae ’na drysor yn aros amdanoch yn y stori sy’n ei chloi – teyrnged arall, mi dybiaf, y tro hwn i ffrind annwyl a llenor disglair a gollwyd yn llawer rhy gynnar. ‘Karka dy ddiwedd.’
Les mer
Yn enedigol o Gwm Rhondda, mae Manon Rhys yn byw yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn ac yn awdur nifer o gyfrolau rhyddiaith, yn cynnwys y nofelau Rara Avis (Gomer, 2005) ac Ad Astra (Gomer, 2014). Bu’n olygydd y cylchgrawn llenyddol Taliesin ac yn sgriptio sawl cyfres deledu. Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 gyda’r nofel Neb Ond Ni a hefyd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015 am gasgliad o gerddi yn dwyn y teitl ‘Breuddwyd’ – sydd i’w gweld yn y gyfrol hon. Mae Stafell Fy Haul, fel Cornel Aur (Gomer 2009), yn cynnwys amrywiaeth o farddoniaeth a rhyddiaith.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781911584131
Publisert
2018-07-23
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
210 mm
Bredde
138 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
96

Forfatter
Illustratør