Bu 2014 yn flwyddyn fawr i farddoniaeth Gymraeg. Arwydd o hynny yw’r cerddi rhagorol a enillodd y Gadair a’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ac er na chyhoeddwyd ond rhyw hanner dwsin o gyfrolau o farddoniaeth yn ystod y flwyddyn, rhaid dweud eu bod o ansawdd uchel iawn. Credaf fod tri o’r beirdd hyn (Rhys Iorwerth, Guto Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis) wedi cyhoeddi eu cyfrolau cyntaf, ac mae hynny yn argoeli'n dda iawn ar gyfer y dyfodol.
Mae Guto Dafydd ymysg yr ychydig feirdd a gyhoeddodd gyfrol eleni nad yw’n byw yng Nghaerdydd. Rhaid bod y ffaith honno yn ei thro yn dweud rhywbeth wrthym am natur y gymdeithas Gymraeg ei hiaith heddiw.Yn wahanol i’r lleill fe arhosodd ef ym Mhen Llŷn:
Ond yma yr ydw i, yn gwrthod gwawdio,
yn rhy ddiog, wreiddllyd i symud,
yn gobeithio gwneud goleuni
yn y tir gwag, oer
hwn.
Nid fod y darlun o Ben Llŷn mor dywyll â hynny bob tro. Mewn cerdd arall cyfeirir at y fangre fel ‘lle addfwyn hardd’.
Ond bregus yw’r cymunedau Cymreig a ddisgrifir ganddo. Un o’r ardaloedd hynny oedd Tryweryn ac fe ddywed y bardd yn drawiadol iawn am y lle: ‘Piclwyd yno ffordd o fyw’. Yn wir, mae’n bosib mai yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig y cawn ni unrhyw beth sy’n ymdebygu i fywyd cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn nhoiledau’r Maes Carafanau yno byddwn yn ‘gollwng ein rhwystredigaeth a’n hofn i danc septig ...’
Yn ei gerdd deyrnged i John Davies, Bwlch-llan fe ddywed fod ‘hanes gwlad yn gyflawn yn ei ben’.
Gellid dweud bod hynny yn wir am y bardd ei hun i raddau helaeth. Ymddengys ei fod wedi ei drwytho ei hun yn ein chwedloniaeth, ein barddoniaeth a’n hanes gan fod ei gerddi'n frith o gyfeiriadau sydd wedi eu codi o’n traddodiad llenyddol.
Bregus yw ei obeithion am ddyfodol y Gymraeg a’r cymunedau hynny lle siaredir y Gymraeg, fel y gwelsom. Mae yna ambell fflach er hynny, fel y gwelwn o’r gerdd ‘Achub Pantycelyn’:
Saif y muriau’n brawf nad yw darfod
yn fiwrocrataidd o anorfod.
Ychydig o’r gobaith yna sydd yn ei gerddi er hynny, a thrawiadol yw ei ddisgrifiad o’r genedl fel ‘ni sy’n chwysu ar yr allt ond yn ofni’r copa’ a ‘ni sy’n fflyrtio â rhyddid gan lyfu’n cadwyni’.
Nid Cymru yn unig sy’n wynebu dyfodol ansicr. Yn y gerdd ‘Agos’, sy’n trafod y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon, dywedir:
mae rhyfel mor agos
â rasel ar arddwrn.
Mae hogiau tracwisg yn dawnsio ar do’r bys-stop.
Os mai’r dyfodol sy’n ansicr yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, yna’r gorffennol sy’n bwrw ei gysgod dros yr Almaen. Dywedir i ddwy ran o dair o wragedd Berlin gael eu treisio gan filwyr Rwsiaidd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd a dyna a geir yn y gerdd i’r hen wraig ar yr <i>U-Bahn</i> yn y ddinas honno:
Clyw’r concrit yn tynhau.
Gwinga: ai dyna sŵn byddinoedd
yn cau am y ddinas, yn closio
at ei chell i’w dal
yn welw rhwng wal a gwn?
Bardd ifanc, ymwybodol iawn o’i feidroldeb sydd yma. Trawiadol yw’r sylw mai ‘dim ond tenant ydw i yn y cnawd hwn’.
Dewch i ni obeithio na fydd i lesgedd na henaint ei lethu am beth amser eto ac y bydd Guto Dafydd yn parhau i gyfoethogi ein llenyddiaeth am gryn amser. Mae’r gyfrol gyntaf hon o’i eiddo yn ernes fod dyfodol disglair iawn o’i flaen fel bardd.
- Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com,
Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013 ac mae'n aelod o dîm Talwrn y Tywysogion a thîm ymryson Caernarfon. Y mae hefyd yn un o golofnwyr cylchgrawn 'Y Glec' ac yn cyfrannu'n rheolaidd i sawl cyhoeddiad arall. Cyhoeddodd nofel dditectif i bobl ifanc (Jac) gyda'r Lolfa ddechrau'r haf ac ymddangosodd ysgrif ganddo ar Iwan Llwyd yn y gyfrol Awen Iwan a lansiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.